Newyddion S4C

Protestiadau Israel: 'Cyrff mewn bagiau yn hytrach na chytundeb'

02/09/2024
Protestio yn Israel

Mae arweinydd undeb llafur mwyaf Israel wedi galw streic un dydd yn sgil anfodlonrwydd cynyddol am yr wystlon sydd yn cael eu dal gan Hamas.

Cafodd chwech o gyrff wystlon eu darganfod gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) ddydd Sadwrn yn ne Gaza. Ers hynny mae'r tensiynau wedi bod yn cynyddu gyda degau o filoedd yn protestio ar y strydoedd nos Sul.

Mae'r protestwyr yn cyhuddo Benjamin Netanyahu a'i lywodraeth o beidio gwneud digon i ddod i gytundeb gyda Hamas ynglŷn â gweddill yr Israeliaid a gafodd eu cymryd yn ystod yr ymosodiad ar 7 o Hydref.

Roedd rhai protestwyr wedi gwisgo fel y Prif Weinidog gyda gwaed ffug ar ei dwylo tra bod eraill wedi clymu eu dwylo i edrych fel petai nhw wedi eu caethiwo

Yn ôl arweinydd yr undeb llafur Histadrut mae'r wlad yn cael "cyrff mewn bagiau yn hytrach na chytundeb". 

Dyw hi ddim yn glir os bydd y streic yn cael ei weithredu gyda nifer o ddinasoedd yn cyhoeddi na fyddan nhw yn cymryd rhan.

Dyw hi ddim yn glir faint o wystlon sydd ar ôl yn Gaza ond cafodd 251 eu herwgipio yn ystod yr ymosodiad yn Israel ddechrau'r Hydref. 

Llun: Wochit

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.