Newyddion S4C

Hepgor disgrifiad un gair Ofsted yn ysgolion Lloegr

02/09/2024
Dosbarth ysgol

Bydd disgrifiad un gair Ofsted ar gyfer arolygu ysgolion yn Lloegr yn dod i ben.

O hyn ymlaen ni fydd ysgolion yn cael eu categoreiddio fel rhai Rhagorol, Da, Angen Gwelliant neu Annigonol.

Yn ôl Llywodraeth y DU mae angen cyflwyno'r newidiadau er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn i rieni.

Bydd Ofsted yn parhau i arolygu ysgolion o dan yr un safonau ac yn parhau i gyflwyno adroddiad sydd yn dweud sut mae agweddau gwahanol o'r ysgol yn perfformio.

Daw'r newidiadau ar ôl i gwest i achos hunanladdiad y brifathrawes Ruth Perry ddarganfod fod yr arolygiad gan Ofsted wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Roedd Mrs Perry yn disgwyl am adroddiad Ofsted ar ôl iddynt arolygu ei hysgol. Ond roedd wedi cael gwybod yn barod y byddai Ofsted yn dweud y byddai'r ysgol yn cael ei disgrifio fel un 'Annigonol'.

Cafodd ymchwiliad ei wneud gan ASau ar draws y pleidiau gwleidyddol oedd yn galw am gael gwared â'r disgrifiad un gair.

Mae'r newyddion wedi cael ei groesawu gan undebau athrawon. Ond mae ysgrifennydd addysg y blaid Geidwadol wedi dweud bod yr hen ddisgrifiad yn rhoi "syniad da i rieni" o sut mae ysgol yn perfformio ac nad yw cael gwared ohono yn "fuddiol i ddisgyblion nac rhieni". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.