Newyddion S4C

Cyn-gapten Caerdydd Sol Bamba wedi marw yn 39 oed

01/09/2024
Sol Bamba

Mae Sol Bamba, cyn gapten Caerdydd, wedi marw yn 39 oed.

Fe ddechreuodd yr amddiffynnwr o’r Arfordir Ifori ei yrfa gyda Paris St-Germain cyn chwarae i Dunfermline a Middlesbrough.

Fe arwyddodd i Gaerdydd yn 2016, ac roedd yn rhan o dîm yr Adar Gleision a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2018.

Yn ystod pum tymor yn y brifddinas, fe chwaraeodd 118 o gemau dros y clwb, gan sgorio 10 o goliau.

Yn ogystal, fe chwaraeodd dros Leeds United, Caerlŷr a Hibernian yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, cyn ymddeol o chwarae yn 2022.

Cafodd diagnosis non-Hodgkin Lymphoma, math o ganser y gwaed, yn 2021 yn ystod ei ddyddiau’n chwarae yng Nghaerdydd. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cafodd cadarnhad nad oedd canser bellach yn ei gorff.

Yn ddiweddarach, roedd wedi bod yn gweithio fel cyfarwyddwr technegol yng nghlwb Adanaspor, sydd yn chwarae yn yr ail haen yn Nhwrci. 

Wrth iddo gymhwyso i weithio fel hyfforddwr, roedd wedi llwyddo i ennill ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Daeth cyhoeddiad am ei farwolaeth gan glwb Adanaspor nos Sadwrn, wedi iddo gael ei daro'n wael cyn gêm gynghrair.

Dywedodd datganiad gan Adanaspor: "Aed â'n cyfarwyddwr technegol, Souleymane Bamba, a aeth yn sâl cyn y gêm yn erbyn Clwb Pêl-droed Manisa ddoe, i Ysbyty Athrofaol Manisa Celal Bayar ac yn anffodus collodd ei frwydr am ei fywyd yno.

"Cydymdeimlwn â'i deulu a'n cymuned."

Dywedodd CPD Caerdydd fod y newyddion wedi'i dderbyn gyda'r "tristwch dyfnaf", gan ddisgrifio Bamba fel "arwr clwb".

"Fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd effaith Sol ar ein clwb pêl-droed yn anfesuradwy.

"Roedd yn arwr i bob un ohonom, ac arweinydd ym mhob ystafell wisgo a gŵr bonheddig go iawn."

Wrth rhoi teyrnged, dywedodd ei wraig Chloe: “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydwyf wedi gwylio Sol yn brwydro â’i ganser gyda dygnwch a chryfder meddyliol a chorfforol anhygoel.

“Yn anffodus, nid oedd byth yn frwydr deg ac fel oedd pethau yn edrych i fyny, fe wnaeth ei gyflwr ddirywio eto ac yn y diwedd, fe hunodd ar 31 Awst.

“Mae’n amhosib disgrifio pa mor anodd mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod ond fe wnaethon ni lwyddo i barhau i chwerthin drwyddo a chanfod hapusrwydd. Rwyf wedi profi rhai o fy nyddiau gwaethaf ond rhai o fy nyddiau gorau yn ogystal.

“Fe wnaeth Sol dderbyn ei dynged fel ewyllys Duw ac fe wnaeth adael y byd yn gwybod, heb os, bod yn wir yn ei garu. Nes i’n sicr o hynny.

“Roedd yn anrhydedd i’w garu ac i Sol fy ngharu innau. Dysgais gymaint ganddo. Fe yw fy arwr. Mae fy nghalon wedi torri. Am anrheg, am anrheg, am anrheg iddo fy ngharu innau.”

 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.