Newyddion S4C

Heddlu’n dod o hyd i gyrff tri o blant a dyn yn Lloegr

31/08/2024
Heddlu

Mae cyrff tri o blant a dyn wedi cael eu darganfod mewn eiddo yn Staines, meddai Heddlu Surrey.

Cafodd swyddogion eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i'r cyfeiriad yn Ffordd Bremer am tua 13:15 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Lucy Sanders: "Rydym yn gweithio i sefydlu beth yn union sydd wedi digwydd."

Dywedodd fod perthynas agosaf y rhai fu farw yn ymwybodol ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Ychwanegodd fod Heddlu Surrey wedi cwblhau atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, oherwydd cyswllt blaenorol yr heddlu gyda'r rhai dan sylw.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.