Mam a chogydd wedi marw yn dilyn ymosodiadau yng ngharnifal Notting Hill
Mae mam a chogydd oedd yn gweithio o dan Gordon Ramsay wedi marw ar ôl i’r ddau cael eu hymosod arnyn nhw mewn digwyddiadau gwahanol yn ystod carnifal Notting Hill y penwythnos diwethaf.
Roedd Cher Maximen, 32, gyda’i merch dair oed a theulu a ffrindiau eraill ddydd Sul, pan gafodd ei thrywanu ar ôl iddi geisio ymyrryd mewn ymladd.
Ac yn hwyr nos Lun, cafwyd hyd i’r cogydd Mussie Imnetu, 41, yn anymwybodol gydag anaf i’w ben y tu allan i fwyty yn Queensway.
Dywedodd Heddlu'r Met ddydd Sadwrn fod Cher Maximen wedi marw fore dydd Sadwrn a Mussie Imnetu nos Wener o'u hanafiadau.
Fe ymddangosodd Shakiel Thibou, 20, gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio Ms Maximen.
Wedi marwolaeth Ms Maximen yn oriau mân ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu'r Met y bydd y drosedd yn cael ei hadolygu ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Mae Thibou hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac anhrefn treisgar.
Fe ymddangosodd yn y llys gyda’i ddau frawd, Sheldon Thibou, 24, a Shaeim Thibou, 21, sydd wedi’u cyhuddo o anhrefn treisgar ac o ymosod ar weithiwr brys, tra bod Sheldon Thibou yn wynebu cyhuddiad ychwanegol o fod â gwn llonyddu (stun gun) yn ei feddiant.
Ni roddodd Shakiel Thibou, na Sheldon Thibou, y ddau o Hammersmith, unrhyw arwydd o ble, ac fe blediodd Shaeim Thibou, o Fulham, yn ddieuog.
Fe wrthododd y Barnwr Rhanbarth John Zani fechnïaeth i’r tri diffynnydd gan rhoi gorchymyn iddyn nhw gael eu cadw yn y ddalfa i ymddangos gyda’i gilydd nesaf ar gyfer gwrandawiad yn yr Old Bailey ar Fedi 25.