Tri dyn yn y llys wedi'u cyhuddo o geisio herwgipio dyn yn Sir Gâr
31/08/2024
Tri dyn yn y llys wedi'u cyhuddo o geisio herwgipio dyn yn Sir Gâr
Mae tri dyn wedi ymddangos yn y llys wedi’u cyhuddo o herwgipio ar ôl ymosodiad honedig ar ddyn yn Sir Gâr ddydd Llun.
Roedd y tri dyn gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn i wynebu un cyfrif o herwgipio ac un cyfrif o achosi niwed corfforol difrifol, yn dilyn yr ymosodiad ger Llanybydder.
Fe wnaeth Mohammad Comrie, 22 oed, o Leeds, Faiz Shah, 22 oed, o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime Wallington, 20 oed, siarad i gadarnhau eu henwau llawn, cyfeiriadau a dyddiadau geni yn unig.
Cafodd y tri dyn eu cadw yn y ddalfa, ac fe fydden nhw’n ymddangos mewn gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Abertawe ar 30 Medi.
Llun: Cerbyd heddlu yn ardal Llanybydder