Mab Rob a Michele Reiner wedi ei gyhuddo o'u llofruddiaeth

Nick Reiner

Mae mab y cyfarwyddwr Hollywood Rob Reiner a'i wraig Michele wedi ei gyhuddo o'u llofruddiaethau.

Mae Nick Reiner, 32 oed yn wynebu dau gyhuddiad o lofruddiaeth gradd un gydag amodau arbennig yn honni llofruddiaethau lu.

Fe allai gael dedfryd o garchar am oes heb bosibilrwydd o barôl neu wynebu'r gosb eithaf os bydd yn cael ei ganfod yn euog.

Daw'r cyhuddiadau ar ôl i'r pâr priod gael eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Los Angeles gydag anafiadau trywanu.

Mae "cyhuddiad arbennig" arall hefyd bod Reiner wedi defnyddio cyllell. 

Roedd Rob Reiner wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Sleepless In Seattle a The Wolf Of Wall Street.

Roedd wedi cyfarwyddo This Is Spinal Tap, The Princess Bride, When Harry Met Sally ac A Few Good Men.

Roedd Michele Reiner yn actores, ffotograffydd a chynhyrchydd. 

Llun: Reuters 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.