Ymosodiad traeth Bondi: Cyhuddo dyn o lofruddio
Mae'r dyn a gafodd ei amau o saethu nifer yn nhraeth Bondi yn Sydney wedi cael ei gyhuddo.
Mae Naveed Akram yn wynebu 59 cyhuddiad gan gynnwys 15 o lofruddiaeth ac un o weithredu terfysgol.
Fe gafodd Akram ei anafu yn ystod yr ymosodiad.
Mae Akram hefyd yn wynebu 40 o gyhuddiadau o achosi niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad o lofruddio ac un cyhuddiad o arddangos symbol mudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd.
Cafodd y dyn arall wnaeth saethu at bobl ar y traeth sef ei dad, Sajid Akram ei ladd gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad.
Fe fuodd 15 o bobol farw yn ystod yr ymosodiad ddydd Sul.
Mae 20 o bobl yn parhau yn yr ysbyty wedi eu hanafu gyda un person mewn cyflwr difrifol.
Mae'r angladdau wedi dechrau cael eu cynnal ar gyfer rhai o'r bobl a gafodd eu lladd.
Roedd yna ddathliad Iddewig yn digwydd ar y traeth ar y pryd.
Yn ôl Prif Weinidog y wlad, Anthony Albanese roedd yr ymosodiad i bob golwg wedi’i “gymell gan ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd”.
Dyma oedd y saethu mwyaf gwaedlyd yn Awstralia ers 1996.
Llun: Reuters