Mam milwr o Sir Gâr wnaeth ladd ei hun yn teimlo bod y fyddin wedi ei 'anghofio'
Mae mam milwr o Sir Gâr wnaeth ladd ei hun wedi dweud ei bod hi'n teimlo ei fod "wedi ei anghofio" gan y Fyddin Brydeinig.
Daw hyn wedi setliad o gais cyfreithiol.
Cafodd yr Is-gorporal Charlie Owen oedd yn gwasanaethu gyda'r Gwarchodlu Cymreig ei ddarganfod wedi marw Medi 11, 2023.
Roedd yn 25 oed ac wedi cymryd ei fywyd ei hun.
Mae cyfreithwyr ar gyfer ei fam, Tracy Evans, wedi dweud ei fod wedi bod yn stryglo gyda phroblemau iechyd meddwl. Roedd ei berthynas wedi dod i ben, ffrindiau wedi gadael y fyddin a rhai eraill wedi marw trwy hunan laddiad.
Roedd y milwr o ardal Caerfyrddin wedi bod yn y fyddin ers ei fod yn 17 oed. Fe gafodd Fedal Coroniad y Brenin a Medal Jiwbilî Platinwm y Frenhines tra yn y fyddin.
Roedd wedi gwasanaethu yn Irac, Afghanistan a Syria.
Dywedodd Ms Evans: "Fe roddodd Charlie ei fywyd i ymladd ar y rheng flaen ar gyfer Cymru ac roedd yn filwr gyda medalau am reswm.
"Ond eto ers iddo farw rydyn ni yn teimlo ei fod wedi ei anghofio gan ei uwch swyddogion a'r sefydliad yr oedd o yn meddwl y byd ohono."
"Siomedig, blin, wedi ein dymchwel- dyw'r emosiynau yma ddim yn dod yn agos at y ffordd rydyn ni yn teimlo fel teulu."
"Rydyn ni nawr wedi golchi ein dwylo o'r Fyddin- dydyn ni ddim eisiau dim pellach i wneud gyda nhw."
'Ymrwymo'
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud eu bod yn "ystyried atal hunan laddiad fel mater difrifol" a'u bod wedi "ymrwymo" i wneud yn siŵr bod unigolion sydd yn gweithio i'r fyddin yn cael "cefnogaeth lawn" os ydynt yn delio gyda heriau iechyd meddwl.
Mae Ms Evans wedi setlo honiad cyfreithiol gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn am ffigwr pum swm.
Wedi'r setliad dywedodd cyfreithwyr Ms Evans bod Charlie Owen wedi dweud wrth ddoctoriaid y Fyddin am ei broblemau iechyd meddwl.
Fe ddywedodd wrthyn nhw ei fod wedi ystyried lladd ei hun wythnos cyn iddo farw ond bod meddwl am ei deulu wedi ei atal rhag gwneud.
Fe gafodd wedyn ei alw yn ôl i'r barics yn Windsor fel bod modd i swyddogion gadw golwg ar ei les. Ond yn ôl cyfreithwyr Ms Evans chafodd y risg ddim ei gyfathrebu yn effeithiol.
Fe olygodd hynny ei fod wedi cyrraedd y barics gwag y noson cyn yr oedd fod i fynd i weld swyddogion lles ac fe wnaeth o ladd ei hun.
'Methiannau'
Wedi'r cwest ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth y Crwner Cynorthwyol rhoi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dywedodd Robert Simpson bod yna "fethiannau wedi dod o safbwynt pasio gwybodaeth o'r risgiau perthnasol i'r rhai oedd yn gwneud penderfyniadau."
Ychwanegodd nad oedd y pwrpas o fynd yn ôl i'r baracs wedi ei "gyfathrebu yn effeithiol iddo" nac unrhyw un wedi dod i'w gyfarfod a'i asesu wrth iddo gyrraedd.
Mae Ms Evans yn dweud y dylai teuluoedd fod yn rhan o'r gefnogaeth lles ar gyfer milwyr sydd yn dioddef iechyd meddwl.
Dywedodd llefarydd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydyn ni yn cydnabod yr effaith ddofn mae marwolaeth yr Is-Gorporal Owen wedi cael ar ei deulu, ei ffrindiau a'i gyfoedion ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw.
"Rydyn ni yn ystyried atal hunan laddiad fel mater difrifol ac wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod ein holl staff sydd yn wynebu heriau iechyd meddwl wedi eu cefnogi yn llawn, gan gynnwys ystyried yn ofalus yr arsylwadau ac argymhellion yn yr adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol."