Arolwg barn etholiad Senedd Cymru: 'Cefnogaeth i Lafur yn gostwng eto'
Mae arolwg barn newydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026 yn awgrymu fod cefnogaeth i Lafur wedi gostwng eto, tra bod Plaid Cymru yn parhau ar y blaen a Reform UK yn ail.
Rhwng 28 Tachwedd a 10 Rhagfyr, fe gafodd arolwg barn ei gynnal gan YouGov ar ran Prifysgol Caerdydd, gan holi 2,500 o oedolion yng Nghymru ar-lein.
Yn debyg i arolygon barn diweddar, mae'r arolwg yn awgrymu fod Plaid Cymru ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio, gyda 33%, a Reform UK yn ail gyda 30%.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu fod cefnogaeth Llafur wedi syrthio i 10%, o gymharu â 14% o'r arolwg barn diweddar a gafodd ei gynnal gan YouGov ac ITV Cymru ym mis Medi.
Mae'r arolwg diweddaraf yn awgrymu fod y Ceidadwyr ar 10%, tra bod y Blaid Werdd ar 9% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.
O dan y system bleidleisio newydd a fydd yn cynnwys 96 o aelodau etholedig, mae’r arolwg yn awgrymu y bydd gan Blaid Cymru 39 o seddi, llai na’r nifer fyddai ei angen ar gyfer mwyafrif, sef 49.
Fe fyddai hynny’n golygu bod angen clymbleidio neu dod i gytundeb gyda blaid neu bleidiau eraill er mwyn gallu llywodraethu.
Rhagamcan seddi:
• Plaid Cymru - 39
• Reform UK - 34
• Llafur - 10
• Ceidwadwyr - 6
• Gwyrdd – 4
• Democratiaid Rhyddfrydol - 3
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae hon yn ras rhwng dau geffyl, a dim ond Plaid Cymru sy’n dod â gweledigaeth gadarnhaol, all atal Diwygio a chyflwyno’r arweinyddiaeth newydd y mae Cymru’n ei haeddu.
“Nid ydym yn cymryd dim yn ganiataol, ond os yw pobl eisiau arweinyddiaeth newydd a llywodraeth sydd ar ochr Cymru, mae’r dewis yn glir - ymglymwch, a phleidleisiwch dros Blaid Cymru ar 7 Mai 2026.”
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Gyda Phlaid, fe fydd Cymru yn wynebu mwy o'r un polisïau eithafol yr ydym wedi'u cael gan Plaid a Llafur yn gweithio ar y cyd ym Mae Caerdydd.
"Yn y cyfamser, fe fydd Reform yn ymladd i adfer synnwyr cyffredin yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac i gyflwyno newid go iawn i'n cymunedau yma yng Nghymru."