Opioidau yn gyfrifol am 'y mwyafrif o farwolaethau camddefnydd cyffuriau yng Nghymru'

cyffuriau.jpg

Mae opioidau yn parhau i fod yn gyfrifol am 'y mwyafrif o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru' yn ôl ffigyrau newydd. 

Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 417 o farwolaethau o wenwyno cyffuriau yng Nghymru wedi'u cofrestru yn 2024, o gymharu â 377 yn 2023. 

O'r 417 o'r marwolaethau hyn, roedd 288 o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau, sef y nifer uchaf ar gofnod. 

Fe gafodd y mwyafrif o farwolaethau eu hachosi gan wenwyno damweiniol (84%). 

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru opiodau yw'r sylweddau mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â gwenwyno damweiniol, gan gael eu cofnodi mewn 200 o farwolaethau. 

Roedd dros hanner y marwolaethau yn ymwneud â heroin neu forffin. 

Dros y degawd diwethaf, roedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru fwy na phum gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na phobl mewn ardaloedd breintiedig.

'Niwed parhaus'

Roedd dynion bron dair gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na menywod y llynedd yn ôl y ffigyrau, ac oedolion hŷn oedd y grŵp oedran a gafodd eu heffeithio fwyaf.

Dywedodd yr Athro Rick Lines, Pennaeth Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r ffigyrau hyn yn dangos y niwed parhaus y mae opioidau'n ei achosi ledled Cymru, yn aml ochr yn ochr â sylweddau fel cocên a bensodiasepinau. 
 
"Mae'r cynnydd mewn defnyddio cocên yn adlewyrchu'r hyn y mae gwasanaethau lleol wedi bod yn ei adrodd ers peth amser.
 
"Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 
 
"Mae hyn yn dangos yr angen am weithredu ehangach ar dai, tlodi ac anghydraddoldebau iechyd ochr yn ochr â gwaith gwasanaethau cyffuriau arbenigol."



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.