Cau ffyrdd yng nghanol y brifddinas ar gyfer ras 10k Caerdydd
Roedd nifer o ffyrdd yng nghanol y brifddinas ynghau fore dydd Sul ar gyfer ras 10k Caerdydd.
Roedd y strydoedd ar gau o 09:00 ymlaen am rai oriau yn ystod y bore er mwyn diogelwch y rhai oedd yn cymryd rhan.
Fe gynhaliwyd y ras 10k gyntaf yng Nghaerdydd yn 1986 ac roedd dros 7,000 o redwyr eleni – y mwyaf yn hanes y ras.
Roedd y ras yn cychwyn o flaen y Ganolfan Ddinesig gyda'r rhedwyr yn teithio heibio’r castell a Stadiwm Principality cyn troi am Bontcanna, Llandaf a Gerddi Sophia ac yn ôl i orffen wrth y Ganolfan Ddinesig.