
Wyth ardal i dreialu terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr

Fe fydd terfyn cyflymder mewn rhai ardaloedd yn gostwng o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr mewn wyth ardal o’r wlad yn rhan o gynllun peilot newydd.
Os bydd yn llwyddiant, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno’r terfyn cyflymder newydd.
Y gobaith yw y bydd yr arbrawf yn lleihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd medd y llywodraeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y newid hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar les a'r amgylchedd.
Yn 2019, roedd 52% o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffyrdd terfyn cyflymder 30mya.
Yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth, mae'r risg o gael eich lladd bron bum gwaith yn uwch mewn gwrthdrawiadau rhwng car a cherddwr ar 31mya o'i gymharu â'r un math o wrthdrawiadau ar 18.6mya.
'Cam beiddgar'
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: "Mae gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar strydoedd prysur i gerddwyr ac mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn gam beiddgar sy'n dod â buddion sylweddol.
"Nid yn unig mae'n arbed bywydau, ond mae hefyd yn helpu i wneud ein strydoedd yn lle mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr, ac o fudd i’n lles corfforol a meddyliol a gyda llai o gerbydau ar y ffordd mae'n helpu i greu effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
"Rydyn ni'n gwybod na fydd y newid yn hawdd - mae'n ymwneud cymaint â newid meddyliau ag y mae â gorfodi caled - ond dros amser bydd 20mya yn dod yn norm, yn union fel y cyfyngiadau rydyn ni wedi'u cyflwyno o'r blaen ar newid bagiau plastig, ysmygu y tu mewn a rhoi organau. "

Pentref Saint y Brid ym Mro Morgannwg yw un o'r ardaloedd cyntaf i weld y terfyn cyflymder 20mya yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r peilot.
Croesawodd pennaeth yr ysgol gynradd leol y cam.
Dywedodd Duncan Mottram: "Mae'r ysgol a'r gymuned leol yn falch iawn o chwarae rhan mor amlwg yn y fenter gyffrous hon.
"Bydd lleihau'r terfyn cyflymder ar ein ffyrdd yn eu gwneud yn fwy diogel a hefyd yn helpu i hyrwyddo mathau eraill o gludiant mwy gwyrdd fel cerdded a beicio.
"Mae disgyblion wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn o'r dechrau, gan gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwyddion ffyrdd sy'n ymddangos o amgylch y pentref, tra bod grŵp trigolion lleol hefyd wedi gwneud eu cefnogaeth yn glir o'r cychwyn cyntaf.
"Rydym yn falch o fod yn un o'r cynlluniau peilot ar gyfer y terfyn cyflymder newydd hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weld yn cael ei gyflwyno ledled y wlad."
Yr wyth ardal sy'n rhan o'r cynllun peilot yw:
Saint y Brid, Bro Morgannwg - wedi lansio’n barod
Llandudoch, Sir Benfro - wedi lansio’n barod
Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin - yn lansio ganol mis Gorffennaf
Gogledd Orllewin Caerdydd - yn lansio ym mis Medi
Pentref Cilfrew, Castell-nedd Port Talbot - yn lansio ym mis Medi
Y Fenni a Severnside, Sir Fynwy - yn lansio yn gynnar yn 2022
Bwcle, Sir y Fflint - dyddiad lansio heb ei gadarnhau