Newyddion S4C

Holl docynnau sioeau Oasis yn gwerthu allan er gwaethaf problemau gyda gwefannau

31/08/2024
Oasis

Mae'r holl docynnau ar gyfer sioeau Oasis wedi gwerthu allan er gwaethaf problemau gyda gwefannau 

Roedd problemau gyda gwefannau tocynnau wedi effeithio ar ymdrechion ffans Oasis oedd yn ceisio prynu tocynnau i weld cyngherddau'r band.

Fe wnaeth y band gadarnhau ddydd Mawrth eu bod yn ail ffurfio, gan gyhoeddi taith ym Mhrydain ac Iwerddon. Bydd dau gyngerdd cyntaf y daith yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Cafodd tocynnau i'r sioeau eu rhyddhau fore Sadwrn, gyda thocynnau i ddwy sioe yn Nulyn yn cael eu rhyddhau am 08.00, tra bod tocynnau i'w sioeau yn y DU wedi'u rhyddhau am 09.00.

Ond mae unigolion sydd yn ceisio am y tocynnau wedi profi problemau, yn dilyn "methiannau" yn y gwefannau sydd yn eu gwerthu.

Mae rhai unigolion wedi adrodd eu bod wedi eu "tynnu allan" o'r ciw am docynnau ar wefan Ticketmaster a'u gorfodi i ail-ddechrau eu ceisiadau, wrth gael eu symud yn ôl i gefn y ciw.

Fe wnaeth y gwefan Gigs and Tours, sy'n cael ei redeg gan gwmni hyrwyddo SJM Concerts, profi problemau cyn 09.00.

Dywedodd neges ar y wefan: “Plîs byddwch yn amyneddgar. Ar hyn o bryd mae llawer o bobl ar y safle yn chwilio am docynnau, felly rydym wedi rhoi system giwio ar waith, sy'n gwbl normal."

Dywedodd Ticketmaster nad oedd eu gwefan wedi methu.

“Mae’r ciw yn symud ymlaen wrth i gefnogwyr brynu tocynnau. Fel y rhagwelwyd, mae miliynau o gefnogwyr yn ymweld â'n gwefan felly wedi cael eu gosod mewn ciw," medd llefarydd.

Rhybudd

Llwyddodd nifer cyfyngedig o gefnogwyr i brynu'r tocynnau cyntaf yn ystod ffenestr tair awr nos Wener.

Yn fuan wedyn, roedd tocynnau yn cael eu rhestru ar-lein am fwy na £6,000 - tua 40 gwaith gwerth y tocyn gwreiddiol.

Mae Oasis yn annog pobl i beidio ag ailwerthu tocynnau am brisiau uwch ar wefannau nad ydynt yn gysylltiedig â'u hyrwyddwr, a dywedodd y band y byddent yn cael eu "canslo".

Mae Adam Webb, rheolwr ymgyrch y FanFair Alliance, a sefydlwyd i helpu cwsmeriaid ac artistiaid i fynd i'r afael â mater towtio tocynnau, ar weinidogion i weithredu.

Dywedodd: “Rydyn ni angen rhywfaint o weithredu gan y llywodraeth.”

"Gwnaeth Syr Keir Starmer gyhoeddiad ym mis Mawrth, gan awgrymu y byddai Llafur - pe baent yn dod i rym - yn capio'r pris ailwerthu. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn gobeithio y byddant yn symud ymlaen ag ef."

Yn yr araith honno, dywedodd y prif weinidog na allai mynediad i ddiwylliant fod "ar drugaredd towts tocyn didostur sy'n codi'r prisiau".

Yn fuan ar ôl i'r cyn-werthu ddydd Gwener ddechrau, ymddangosodd rhestrau tocynnau ar wefannau ailwerthu fel StubHub a Viagogo, gan gynnwys:

- Rhwng £916 a £4,519 ar gyfer cyngerdd cyntaf y daith yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 4 Gorffennaf

- £6,000 ar gyfer sioe Oasis yn Stadiwm Wembley yn Llundain ar 26 Gorffennaf

- Dros £4,000 ar gyfer tocynnau sefyll yn Stadiwm Murrayfield yng Nghaeredin ar 12 Awst

- Mwy na £2,500 ar gyfer cyngerdd y band yn dod adref yn Heaton Park ym Manceinion ar 12 Gorffennaf

Cyn y cyn-werthiant, dywedodd hyrwyddwyr y bydd tocynnau sefyll yn costio tua £150, tra bod tocynnau seddi safonol yn amrywio o £73 i tua £205. 

Mae prisiau pecynnau premiwm swyddogol yn codi i £506.

Mae disgwyl i tua 1.4 miliwn o docynnau fod ar gael ar gyfer yr 17 cyngerdd awyr agored yn y DU ac Iwerddon fis Gorffennaf ac Awst nesaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.