Gwobr i fachgen 12 oed wnaeth achub bywyd ei fam ar ôl iddi lewygu tra'n gyrru

Zac Howells

Mae bachgen 12 oed o gymoedd y de wedi derbyn gwobr ar ôl iddo achub bywyd ei fam wedi iddi lewygu tra'n gyrru.

Ar 14 Rhagfyr roedd Zac Howells o Lynebwy wedi cymryd rheolaeth o gar ei fam, Nicola.

Fe wnaeth Nicola lewygu, gyda'i throed yn dal ar y sbardun wrth deithio ar ffordd yr A40 yn Rhosan ar Wy yn Sir Hereford.

Ceisiodd Zac ddeffro ei fam, ond nid oedd hi'n ymateb ac felly roedd Zac wedi llywio'r car ar ddarn o dir wrth ochr y ffordd er mwyn arafu'r car.

Ar ôl llwyddo i wneud hynny fe ddiffoddodd injan y car a ffonio 999, gan ddweud wrth y gwasanaeth ambiwlans yn union leoliad ef a'i fam.

Ni chafodd Zac na Nicola eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi gwobrwyo'r bachgen ifanc am ei weithred hollbwysig.

Mewn ymweliad i bencadlys y llu mae Zac wedi derbyn Canmoliaeth y Prif Gwnstabl (Chief Constable’s Commendation).

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mercia, Richard Cooper: “Dwi wrth fy modd yn cyflwyno’r wobr hon i Zac yn dilyn profiad a fyddai wedi bod yn frawychus iawn i fachgen mor ifanc.

“Mae’n wych i blentyn 12 oed ymateb mewn modd mor aeddfed a hoffwn fynegi fy niolchgarwch am ei weithredoedd y diwrnod hwnnw.

“Yn sicr, fe wnaeth ei arddangosfa o ddewrder ddiffodd unrhyw berygl iddo ef a'i fam ond hefyd i aelodau eraill o’r cyhoedd a oedd ar y ffordd y diwrnod hwnnw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.