Newyddion S4C

Prinder meddyginiaeth ffibrosis systig: Angen 'gweithredu ar frys'

31/08/2024
Creon

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn dweud bod angen "gweithredu ar frys" i fynd i'r afael â phrinder meddyginiaeth ar gyfer pobl â ffibrosis systig.

Mae Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i helpu i ddatrys prinder o Creon, sef meddyginiaeth sy'n cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o bobl sy’n byw gyda ffibrosis systig i reoli eu symptomau.

Ar hyn o bryd, mae yna brinder byd eang o'r feddyginiaeth oherwydd diffyg cynhwysion a phroblemau gweithgynhyrchu.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, mae iechyd pobl mewn "perygl sylweddol" wrth iddyn nhw orfod dogni eu meddyginiaeth neu fynd hebddo'n gyfan gwbl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos" gyda Llywodraeth y DU a chyrff iechyd i sicrhau bod "unrhyw amhariad i'r cyflenwad yn cael ei leihau i'r rhan fwyaf o bobl" sy'n derbyn y feddyginiaeth.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth y DU am ymateb.

Cyflwr genetig

Mae ffibrosis systig yn gyflwr genetig sy'n effeithio ar 11,000 o bobl yn y DU, gan gynnwys tua 300 o oedolion a 150 o blant sy’n cael triniaeth yng Nghymru.

Mae'r cyflwr yn achosi mwcws gludiog i gronni yn yr ysgyfaint a'r system dreulio, gan achosi heintiau ar yr ysgyfaint a phroblemau gyda threulio bwyd.

Mae tua 80% o bobl â'r cyflwr yn gorfod cymryd therapïau amnewid ensymau pancreatig (PERT) gyda phob pryd o fwyd. Mae'r tabledi yn eu helpu i reoli symptomau yn ogystal â chynnal pwysau iach ac osgoi diffyg maeth.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn "hynod bryderus" am effaith y prinder meddyginiaeth ar y rhai sydd â ffibrosis systig.

"Rwy'n hynod bryderus o glywed bod bywydau pobl sy'n byw gyda ffibrosis systig yn fy etholaeth i, ledled Cymru a thu hwnt yn cael eu rhoi mewn perygl diangen oherwydd cyflenwad cyfyngedig o Creon, gan roi pwysau ychwanegol ar ddioddefwyr a'u teuluoedd," meddai.

"Mae'r cyflenwad cyfyngedig o Creon yn golygu bod rhieni, gofalwyr, a phobl â ffibrosis systig, a llawer o rai eraill sy'n dibynnu ar y feddyginiaeth, bellach yn treulio cryn dipyn o amser yn ceisio dod o hyd i feddyginiaeth hanfodol, a hynny ar ben trefn driniaeth ddwys i aros yn iach.

"Mae'r sefyllfa yn anghynaladwy. Ni ddylai pobl sy'n byw gyda ffibrosis systig ac sydd eisoes yn treulio 2-5 awr y dydd ar gyfartaledd ar driniaeth wedyn gael eu gorfodi i fynd o fferyllfa i fferyllfa i geisio dod o hyd i Creon."

Ychwanegodd fod angen "atebion mwy arloesol a pharhaol" i sicrhau bod pobl â ffibrosis systig yn cael triniaeth ddigonol.

"Rwy'n deall fod Viatris, sef cyflenwr Creon yn y DU, yn disgwyl i broblemau cadwyn gyflenwi barhau tan o leiaf 2026, heb unrhyw gynllun i sicrhau lefel fwy sefydlog o gyflenwad Creon, gan adael fferyllfeydd allan o stoc am gyfnodau hir," meddai.

"Rwy'n galw felly ar Lywodraeth Cymru a'r DU i gydweithio i fynd i'r afael â phroblemau cadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar ddioddefwyr systig ffibrosis a'r nifer ehangach o brinder meddyginiaethau sy'n effeithio ar gleifion yng Nghymru a'r DU."

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers mis Chwefror 2024, mae llawer o bobl sydd wedi cael therapi amnewid ensymau pancreatig (PERT), fel Creon, wedi cael trafferth cael gafael â’r meddyginiaethau hyn. Mae'r amhariad yma yn y cyflenwad yn effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan.

"Mae cynnal parhad cyflenwad meddyginiaethau i'r DU yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, fodd bynnag, rydym yn gweithio'n agos gyda nhw, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), byrddau iechyd, meddygon teulu, a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod unrhyw amhariad i'r cyflenwad yn cael ei leihau i'r rhan fwyaf o bobl sydd i dderbyn y meddyginiaethau hyn.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.