Pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau yn dod i rym yng Ngwynedd
Pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau yn dod i rym yng Ngwynedd
Mae pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau wedi dod i rym yng Ngwynedd ddydd Sul.
Mae’n golygu y bydd angen i berchnogion tai yng Ngwynedd gael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Ni fydd yn effeithio ar dai sydd eisoes wedi eu sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr cyn 1 Medi.
Bydd y newid, sy'n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, yn cael ei weithredu yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig.
Ni fydd yn effeithio ar gymunedau Parc Cenedlaethol Eryri ond mae awdurdod y parc yn ystyried cyflwyno mesurau tebyg yn yr ardal.
Daw'r newid ar ôl i Gabinet Cyngor Gwynedd dderbyn argymhelliad i weithredu cyfarwyddyd i reoli'r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau fis Gorffennaf.
Roedd ymchwil diweddar gan y cyngor yn awgrymu fod 65.5% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.
Roedd y ganran yn "cynyddu’n sylweddol" mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau, meddai'r ymchwil.
'Allweddol'
Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i reoli'r nifer o ail gartrefi.
Cyngor Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y pwerau newydd sy'n bwriadu gwella mynediad pobl leol at dai fforddiadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, fod cyflwyno Erthygl 4 yn "allweddol".
"Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni," meddai.
"Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau."
Yn ôl Dafydd Meurig, mae 'na "filoedd o bobl" ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol yng Ngwynedd.
"Mae 'na grisis tai yn y sir, mae 'na filoedd o bobl ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol, ac eto mae 'na oddeutu 7,000 o ail gartrefi neu lety gwyliau yn y sir, sef oddeutu 12% o'r holl stoc," meddai.
"Felly mae hwn yn rhoi cyfle go dda i ni fynd i ymrafael â'r broblem."
Un sy'n cefnogi'r newid yw Mared Llywelyn, sef cadeirydd Cyngor Tref Nefyn.
"Mae 'na densiwn yn lleol yn sicr rhwng pobl leol a phobl sy'n berchen ar ail dai a busnesau yma," meddai.
"Mae o'n bwnc anodd, ond mae'n rhaid i ni weithredu i reoli'r broblem 'ma neu mi fydd ein cymunedau ni'n cael eu colli am byth... fydd ein hiaith ni'n cael ei golli a bob dim sy'n annwyl i ni yma."
Er bod rhai yn cefnogi Erthygl 4, mae dros 3,500 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newid.
Mae rhai yn honni y bydd eu tai yn werth llai o arian os fyddan nhw eisiau eu gwerthu, ac eraill yn poeni am yr effaith ar eu cynllun pensiwn.
Roedd rhai hefyd wedi bod yn rhan o ymgyrch i godi arian i ddechrau her gyfreithiol yn ei erbyn.
Ond mae Erthygl 4 bellach yn cael ei weithredu yng Ngwynedd, ac mae galwadau i'r pwerau ddod i rym mewn siroedd eraill.
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, ei fod eisiau i eraill "ddilyn esiampl" Gwynedd.
“Mae argyfwng tai Cymru’n bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd," meddai.
"Rydym yn galw nawr ar awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl yma ar draws eu siroedd nhw."
Ychwanegodd: “Mae’n amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud, felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy’n cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir."