Cymuned Biwmares yn galaru yn dilyn gwrthdrawiad angheuol
Cymuned Biwmares yn galaru yn dilyn gwrthdrawiad angheuol
Tref glan môr ar Ynys Môn yn galaru yn dilyn digwyddiad erchyll ddoe.
Mae cymuned Biwmares wedi syfrdanu yn dilyn y newyddion erchyll, nifer yn methu credu bod y fath beth wedi digwydd.
Mae 'na lot fawr wedi bod yma yn gosod blodau ar y safle ac i gofio am y rhai sydd wedi colli eu bywydau.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, tarodd car Audi oedd yn cael ei yrru gan ddyn lleol yn ei 80au mewn i ddau gerddwr ar Stryd Alma yn y dref toc cyn tri o'r gloch brynhawn ddoe.
Dyn a dynes yn eu 60au oedd ddim yn byw yng ngogledd Cymru.
"I'd like to pay tribute to the community in Beaumaris and the visitors there yesterday who responded not by running away but by trying to help, giving first aid, CPR and trying to save lives which is testament to the community which is present in Biwmares."
Mae'r sioc yn parhau i'r rheiny welodd y digwyddiad ddoe.
"Mae o deffo 'di ysgwyd Biwmares fel tref.
"Mae lot yn siarad ac wedi cael ofn.
"Na'th o ddigwydd mor fast.
"Oedd 'na gymaint o bobl yma ar ôl iddo ddigwydd, llawn Heddlu 'ma.
"Wedyn, ie, injan tan wedyn."
"Roedd pobl yn eithaf emosiynol o gwmpas ac wedyn ar ôl bach daeth yr ambiwlans a'r Heddlu a ballu."
Yn dilyn trychineb mae'r gymuned wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd a chofio'r rhai sydd wedi marw.
"O'n ni i gyd yn meddwl fysa fo'n appropriate iawn i gael llyfr cofio.
"Mi fydd o yn Neuadd y Dref fory i rywun sydd isio sgwennu yn y llyfr."
Mae union achos y digwyddiad dan ymchwiliad yr Heddlu sy'n annog pobl i beidio ceisio dyfalu be ddigwyddodd yma ddoe.
"Mae'n drist eithriadol ond roedd yr ymateb yn lleol gan wirfoddolwyr y gymuned a busnesau yn wych.
"Daeth y gwasanaethau brys yn ofnadwy o gyflym yma ac yn delio efo'r mater yn sensitif a thrylwyr.
"Rŵan mae'n rhaid gadael iddynt wneud eu gwaith ac ymchwilio a chydymdeimlo'n ddwys gyda'r teulu sy 'di cael ei effeithio gyda'r drychineb yma ddoe."
Mae bywyd bob dydd y dref hon yn parhau ar ddiwrnod braf ganol haf ond hynny yn dilyn diwrnod tywyll iawn yma ym Miwmares ddoe.