Newyddion S4C

Dyn o Bwllheli i redeg bron i 1,000km erbyn diwedd mis Ionawr

Heno

Dyn o Bwllheli i redeg bron i 1,000km erbyn diwedd mis Ionawr

Mae dyn o Bwllheli yn gobeithio bod “y person gyntaf” i gwblhau her "anhygoel" y mis yma drwy redeg bron 1,000km erbyn diwedd Ionawr. 

Mae Finlay Calderwood o’r Ffor wedi gosod her bersonol i'w hun wrth iddo geisio rhedeg 992km erbyn diwedd y mis. 

Ei nod yw rhedeg yr un nifer o gilomedrau sy’n cyfateb a’r dyddiad y diwrnod hwnnw – ac yna ei ddyblu. 

Fe wnaeth Mr Calderwood siarad gyda Heno nos Lun, sef 13 Ionawr.

Roedd o eisoes wedi rhedeg 13km y bore hwnnw, ac roedd yn paratoi i redeg 13km arall gyda’r nos. 

Esboniodd: “Be’ dwi’n ‘neud ydi dyblu bob dydd, so 13eg yw’r dyddiad ond dwi angen neud 26km, so dyblu pob diwrnod tan y 21ain.” 

'Herio'

Fe benderfynodd Mr Calderwood rhedeg 992km wedi i'w gefnder a Sean Conway, sydd yn ddyn adnabyddus am wneud rasys eithafol, ei herio i wneud. 

“Geshi fideo gen fy nghefnder a Sean Conway – sydd ‘di ‘neud 105 o ‘Ironmans’ mewn 105 o ddiwrnodiau – efo’i gilydd yn herio fi i ‘neud 30 marathon mewn 30 diwrnod, neu her mae o ‘di sefydlu sef y 496."

Image
Sean Conway
Sean Conway

Fe ddaeth Mr Conway yn athletwr byd-enwog wedi iddo gwblhau’r her Ironman. Mae bellach wedi sefydlu Her y 496 – sef yr her o redeg yr un nifer o gilomedrau sy’n cyfateb a’r dyddiad. 

Dywedodd Mr Calderwood: “Neshi ffonio fy nghefnder diwrnod ar ôl cael y fideo a meddwl pam na’i ddim dyblu fo a trio bod y person gynta’ i ‘neud hynna.” 

Hyfforddiant

Er mwyn paratoi i redeg milltiroedd mae Finlay Calderwood wedi derbyn hyfforddiant gan yr athletwr profiadol, Lowri Morgan am ddau fis cyn iddo gychwyn yr her.

Mae Lowri Morgan wedi dweud ei bod yn “rili rili falch” o gael y cyfle i gydweithio gyda Mr Calderwood, a’i bod yn “edrych ‘mlaen i gael sgwrs fach pan i ti’n croesi’r llinell derfyn ‘na.” 

Image
Lowri Morgan
Lowri Morgan

“S’dim lot o bobol wedi neud y sialens yma o’r blaen,” meddai Lowri Morgan wrth drafod yr her. 

“Mae mynd i fod yn anodd oherwydd mae rhedeg ar goesau blinedig yn mynd i herio’r corff a’r meddwl.

“Dyna be wnaethon ni dros y misoedd diwethaf oedd paratoi e i allu dihuno lan bob dydd a rhedeg ar goesau blinedig.

“Mae fe’n neud yn wych.”

Bydd Mr Calderwood yn codi arian tuag at elusen iechyd meddwl lleol, Mesen. Cafodd yr elusen ei sefydlu gan Sioned Erin yn 2022 er mwyn helpu rhai sydd â theimladau o hunanladdiad. 

Dywedodd Finlay Calderwood ei fod yn “diolchgar am bob ceiniog sy’n dod fewn a mae hefyd yn cadw fi fynd yn y nosweithiau oer ‘ma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.