Argymell absenoldeb i rieni sy'n colli baban yn y groth
Dylai menywod a'u partneriaid fod yn gymwys i hawlio absenoldeb o'r gwaith oherwydd profedigaeth pan yn colli plentyn yn y groth, yn ôl argymhelliad gan Aelodau Seneddol.
Yn ôl aelodau'r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb, nid absenoldeb oherwydd salwch ddylai gael ei gynnig.
Yn ôl yr ASau, mae hynny'n “gefnogaeth amhriodol gan gyflogwyr.”
Ers Ebrill 2020, mae pobl sy'n gweithio yn medru bod yn gymwys i dderbyn absenoldeb o'r gwaith ar ôl colli plentyn wedi 24 wythnos o feichiogrwydd. Ond does dim absenoldeb penodol ar gyfer rhieni sy'n colli plentyn yn y groth cyn 24 wythnos.
Yn ôl y pwyllgor, dylai'r cyfnod o bythefnos o seibiant o'r gwaith fod ar gael hefyd i'r rhai sydd wedi colli plentyn hyd at 24 wythnos gyntaf y beichiogrwydd.
Mae'r aelodau yn amcangyfrif fod mwy nag un ym mhob pump achos o golli baban yn y groth yn digwydd cyn 24 wythnos, gyda rhwng 10% ac 20% achos yn digwydd yn y deuddeg wythnos gyntaf.
Dywedodd y pwyllgor: “Does dim cydnabyddiaeth statudol o'r galar y mae nifer o fenywod a'u partneriaid yn ei deimlo ar ôl colli plentyn yn y groth wedi beichiogrwydd sydd wedi para llai na 24 wythnos, na'r effaith y gallai hynny ei gael ar eu bywyd gwaith.”
Wrth gasglu tystiolaeth, clywodd y pwyllgor nad yw tâl salwch yn ddigon ar gyfer nifer o fenywod a'u partneriaid. Roedd rhai yn teimlo nad yw'r broses yn ddigon cyfrinachol, gyda gweithwyr yn aml yn gorfod cofnodi'r rheswm dros absenoldeb yn uniongyrchol i'w rheolwr llinell.
'Galar nid salwch'
Mae cadeirydd y Pwyllgor, Sarah Owen wedi siarad yn flaenorol am ei phrofiad personol hi o golli baban yn y groth.
Dywedodd yr aelod seneddol Llafur: "Doeddwn i ddim yn barod ar gyfer y sioc o golli plentyn yn y groth tra roeddwn yn y gwaith yn ystod fy meichiogrwydd cyntaf.
"Fel nifer fawr o fenywod, yn gyfreithlon, roedd yn rhaid i mi gymryd absenoldeb oherwydd salwch, ond roeddwn i yn galaru nid yn sâl, ac yn ceisio ymdopi â cholled ddofn."
Mae'r pwyllgor yn bwriadu argymell gwelliannau i'r Bil Hawliau Cyflogaeth.
Maen nhw'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi'r gwelliannau, neu gyflwyno rhai eu hunain er mwyn “sicrhau fod pawb sy'n profi poen corfforol ac emosiynol, a galar ar ôl colli plentyn yn medru cael y cymorth y maen nhw ei angen.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Fusnes a Masnach: “Mae colli plentyn ar unrhyw adeg yn ofnadwy o anodd, ac rydym yn gwybod fod nifer o gyflogwyr yn dangos dealltwriaeth a thosturi yn yr amgylchiadau hynny.
“Bydd ein Bil Hawliau Cyflogaeth yn sefydlu hawl newydd oddi mewn i'r cyfnod absenoldeb wedi profedigaeth, gan gryfhau hawliau menywod beichiog a mamau newydd sy'n dychwelyd i'r gwaith.”
Llun: Sarah Owen