Newyddion S4C

Y Bale ac Opera Brenhinol i gynnal ei arwerthiant cyntaf yn y Cymoedd

Arwerthiant Bale Frenhinol ac Opera

Bydd y Bale ac Opera Brenhinol yn cynnal ei arwerthiant gwisgoedd cyntaf yn y Cymoedd yn ne Cymru y mis nesaf. 

Fe fydd dros 10,000 o eitemau o’r sefydliad yn mynd ar werth ar 1 Chwefror yn yr uned storio yn Aberdâr. 

Bydd dillad ac eitemau o gynyrchiadau fel Macbeth, Carmen, The Queen of Spades ac Anna Nicole ymhlith rhai o'r pethau fydd ar werth. 

Mae’r Bale ac Opera Brenhinol wedi dweud y bydd dillad modern, gwisgoedd cyfnod, gwisg ffansi, hetiau, esgidiau, a gwisgoedd milwrol hefyd ymhlith yr eitemau. 

Image
Bale

Bydd y dillad ar werth yn uned Storfeydd Golygfeydd y Tŷ Opera Brenhinol ar Stad Ddiwydiannol Aberaman, a bydd tocynnau ar gael am ddim. 

Fe gafodd yr uned honno ei hadeiladu yn 1995 ac mae’n cael ei ariannu yn rhannol gan Awdurdod Datblygu Cymru. 

Mae’r uned yn cael ei defnyddio er mwyn storio setiau’r sefydliad, yn ogystal â llwytho a dadlwytho i leoliadau ledled y byd. 

Mae 150 o Faledi ac 80 o Operâu yn cael eu storio yn yr uned honno yn Aberdâr.

Image
Uned storio
Uned storio Y Bale ac Opera Brenhinol 

Dywedodd Y Bale ac Opera Brenhinol eu bod am sicrhau y bydd y gwerthiant mor gynaliadwy â phosib ac y bydd pob eitem na chafodd ei werthu yn cael ei gynnig i elusennau lleol.

Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Sefydliad Covent Garden y Tŷ Opera Brenhinol.

Llun: Bale Frenhinol ac Opera

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.