Fiorentina ymhlith gwrthwynebwyr Y Seintiau Newydd yng Nghyngres Europa
Fiorentina ymhlith gwrthwynebwyr Y Seintiau Newydd yng Nghyngres Europa
Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i herio cewri’r Eidal, Fiorentina, yng Nghyngres Europa UEFA.
Cafodd rhestr y gemau eu cyhoeddi ym Monaco brynhawn dydd Gwener.
Bydd pencampwyr Cymru yn chwarae mewn chwe gêm yn y gystadleuaeth ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd y gynghrair yn y gystadleuaeth.
Y Seintiau Newydd yw’r tîm cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd grwpiau unrhyw gystadleuaeth UEFA, a’r cyntaf i gyrraedd prif gystadleuaeth UEFA ers Y Barri yn 1996.
Dyma restr llawn o gemau’r Seintiau:
Fiorentina (Yr Eidal) – Oddi cartref
Djurgarden (Sweden) - Cartref
Asatana (Kazakhstan) - Cartref
Shamrock Rovers (Gweriniaeth Iwerddon) – Oddi Cartref
Panathanaikos (Gwlad Groeg) – Cartref
Celje (Slofenia) – Oddi Cartref
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru