Newyddion S4C

Cludo person i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yng Ngwynedd

30/08/2024
Llun gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Fe gafodd un person ei gludo i’r ysbyty yn gynnar fore dydd Gwener yn dilyn tân mewn tŷ yng Ngwynedd. 

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i dŷ ar Deras Summerhill ym Mlaenau Ffestiniog am 01:25.

Y gred yw mai dyfais drydanol a wnaeth achosi’r tân wedi iddo gael ei adael ar ben arwyneb meddal tra'r oedd yn gwefru.

Roedd y tân a’r mwg wedi achosi difrod i’r tŷ, gan gynnwys yn yr ystafell fyw a’r llawr cyntaf yn bennaf, meddai’r Gwasanaeth Tân. 

Roedd dau griw o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Blaenau Ffestiniog, ac un criw o Fetws-y- Coed, yn bresennol yn ystod y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.