Annog menywod beichiog ac oedolion hŷn i frechu yn erbyn feirws RSV
Annog menywod beichiog ac oedolion hŷn i frechu yn erbyn feirws RSV
Mae menywod beichiog a phobl dros 75 oed yn cael eu hannog i gael brechlyn i amddiffyn yn erbyn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV).
Bydd y rhaglen frechu RSV newydd yn darparu amddiffyniad yn erbyn yr haint am y tro cyntaf yng Nghymru.
Dyma'r haint anadlol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod.
Yn ôl y Llywodraeth, mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn yng Nghymru bob blwyddyn. Mae dros 1,000 o ymweliadau yn cael eu gwneud i'r ysbyty gan fabanod ifanc hefyd.
Mae RSV yn feirws heintus sy'n ymledu yn yr hydref a dechrau'r gaeaf, gan heintio'r rhan fwyaf o blant o fewn dwy flynedd gyntaf eu bywyd ac yn aml yn ailheintio plant hŷn ac oedolion.
Er ei fod yn feirws cyffredin, fe wnaeth dros 60% allan o 1000 o bobl oedd wedi ymateb i arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddweud nad oeddent wedi clywed am RSV.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y “dystiolaeth yn dangos i ni fod y brechlyn yn ddiogel ac yn cynnig amddiffyniad rhagorol, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol GIG Cymru yn ystod misoedd prysur y gaeaf.”
Yn ôl meddyg teulu o Gaerdydd, welodd ei fab ei hun yn mynd yn sâl iawn gyda'r feirws, mae'n holl bwysig fod y brechiad ar gael.
Cafodd Dr Huw Williams a’i wraig Clare, brofiad brawychus ar ol i’w mab Gethin oedd bron yn flwydd oed ar y pryd, gael trafferthion anadlu.
“Y peth mwya brawychus oedd y ffaith ei fod wedi mynd mor wael yn gyflym, mewn tua tair neu bedair awr a'th e o gael annwyd arferol i angen bod mewn ysbyty a chael ocsigen,” meddai Dr Williams
“Roedd e’n anadlu’n lot cyflymach nag oedd e' fel arfer, o'dd ei fola fe’n mynd mewn a mas yn rili gyflym i helpu fe anadlu,
"O'dd e'n amser ofidus iawn,” ychwanegodd.
Mae Gethin bellach yn 14 oed, a chafodd e ddim sgil-effeithau ar ol dal RSV yn fabi, yn ôl ei dad.
'Dinistriol'
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y rhaglen frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gyffrous i weld y rhaglenni brechu ar gyfer RSV yn dod yn realiti ac yn gwybod ein bod bellach yn gallu amddiffyn y mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac ar draws y DU rhag yr hyn a all fod yn feirws mor ddinistriol.
“Er ei fod yn ysgafn i'r rhan fwyaf, gall y feirws hwn achosi salwch difrifol i'r ifanc iawn ac mae'n gyfrifol am o leiaf 400-600 o farwolaethau mewn oedolion hŷn bob blwyddyn.
“Byddwn yn annog pawb sy'n feichiog a'r rhai sy'n cael eu pen-blwydd yn 75 oed i fanteisio ar y cynnig o'r brechlyn RSV pan gaiff ei roi gan eu darparwr gofal iechyd.
“Drwy wneud hynny, byddwch nid yn unig yn amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid, ond byddwch hefyd yn arwain y ffordd at greu byd lle mae heintiau RSV yn achosi llai o niwed a thrallod.”
Dywedodd Dr Mair Parry, pediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor: “Mae RSV yn effeithio ar filoedd o blant ledled Cymru bob gaeaf, gyda channoedd yn mynd i'r ysbyty – weithiau gyda symptomau difrifol iawn neu heintiau cysylltiedig.
“Mae RSV yn feirws cyffredin. Ond yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at ein plant ieuengaf yn datblygu salwch difrifol fel bronciolitis a niwmonia a chael eu derbyn i'r ysbyty i gael help gydag anadlu a bwydo. "