Newyddion S4C

Pêl-droed: Tymor newydd a chlybiau newydd i nifer o Gymry

31/08/2024
Kieffer Moore a Lewis Koumas

Mae cyfnod trosglwyddiadau'r haf yn y byd pêl-droed wedi dod i ben, ac mae gan nifer o chwaraewyr Cymru glybiau newydd.

Fe wnaeth Craig Bellamy gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn erbyn Twrci a Montenegro ddydd Mercher.

Dyma'r tro cyntaf i Bellamy fod wrth y llyw ar gyfer gemau Cymru, a bydd 24 chwaraewr yn y garfan i gyd.

Pwy felly o Gymru sydd yn gwisgo crysau clybiau gwahanol y tymor hwn?

Kieffer Moore

Y tymor diwethaf fe wnaeth Kieffer Moore helpu Ipswich i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, ond nid oedd wedi arwyddo i'r clwb yn barhaol ar ôl ei gyfnod ar fenthyg yno o Bournemouth.

Mae wedi dychwelyd i'r Bencampwriaeth eleni gyda Sheffield United ar ôl iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd.

Sgoriodd yn erbyn QPR ar ddechrau'r tymor a bydd ei goliau'n allweddol os ydy Sheffield United am godi i'r Uwch Gynghrair eto.

Joe Rodon

Ar ôl chwarae i glybiau ar fenthyg dros y ddau dymor diwethaf mae Joe Rodon wedi arwyddo i glwb yn barhaol.

Leeds yw ei glwb newydd a hynny wedi iddo dreulio'r tymor ar fenthyg yno'r llynedd.

Image
Joe Rodon
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Chwaraeodd 43 o 46 gemau'r clwb yn y Bencampwriaeth y llynedd wrth iddyn nhw fethu sicrhau lle o drwch blewyn yn yr Uwch Gynghrair, ar ôl colli yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle.

Y nod i'r clwb eto eleni fydd brwydro i gyrraedd yr Uwch Gynghrair, a gydag Ampadu a Rodon yn rhan o'r amddiffyn a Dan James ar yr asgell, bydd y Cymry yn chwarae rhan bwysig yn yr ymdrech hon i Leeds.

Chris Mepham

Mae Chris Mepham wedi bod yn rhan o amddiffyn Bournemouth ers 2019, ac wedi chwarae dros y clwb yn yr Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ond fe fydd gŵr 26 oed yn dychwelyd i'r ail haen am y tymor ar ôl sicrhau trosglwyddiad ar fenthyg i Sunderland am y tymor ddydd Gwener.

Gyda Bournemouth yn cryfhau eu carfan ymhellach dros yr haf, mae'n debyg y byddai munudau Mepham ar y cae wedi eu cyfyngu'n sylweddol o dan Andoni Iraola y tymor hwn.

Ond drwy fynd yn ôl i'r Bencampwriaeth, y gobaith y bydd yn chwarae yn fwy rheolaidd yn y Stadium of Light, wrth iddo geisio dal llygad rheolwr newydd Cymru, Craig Bellamy.

Jordan James

Ar ôl i Birmingham ddisgyn i Adran Un roedd cryn ddyfalu am ddyfodol Jordan James gyda'r clwb.

Cafodd ei gysylltu gydag Atalanta a Crystal Palace ar ddiwedd y tymor diwethaf cyn arwyddo â chlwb Rennes yn Llydaw.

Fe wnaeth y chwaraewr canol cael 20 oed adael Birmingham City er mwyn ymuno â'r clwb yn Ligue 1 mewn cytundeb gwerth tua £4m.

Ymddangosodd 104 gwaith dros Birmingham, gan sgorio 10 gôl.

Mae Rennes yn safle rhif 8 yn y gynghrair ar ôl y ddwy gêm agoriadol.

Lewis Koumas

Fe wnaeth Lewis Koumas chwarae ei gemau cyntaf dros Gymru yn erbyn Gibraltar a Slofacia ym mis Mehefin.

Daeth hyn ar ôl iddo chwarae dros Lerpwl am y tro cyntaf a sgorio mewn buddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Southampton.

Image
Lewis Koumas
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae'r ymosodwr ifanc wedi arwyddo i Stoke City ar fenthyg ac eisoes wedi sgorio ddwywaith mewn pedwar ymddangosiad.

Mae wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Twrci a Montenegro.

Sorba Thomas

Ar ôl i Huddersfield ddisgyn o'r Bencampwriaeth i Adran Un mae'r Cymro Sorba Thomas wedi gadael y clwb ar fenthyg.

Nantes yn Ligue 1 yw lle y bydd Thomas yn chwarae ei bêl-droed y tymor hwn, ac maen nhw'n seithfed yn y gynghrair ar hyn o bryd.

Roedd cyfnod lle nad oedd yr asgellwr yn rhan o garfan Cymru, ond mae wedi ei gynnwys ar gyfer gemau Cymru ym mis Medi.

Bydd yn gobeithio y gall ei gyfnod yn Ffrainc ei helpu i sicrhau lle parhaol yn nhîm Craig Bellamy.

Fin Stevens

Mae'r amddiffynnwr Fin Stevens wedi ymuno â chlwb St. Pauli yn Yr Almaen.

Ymunodd y Cymro 21 oed gyda'r clwb ar ôl pedair blynedd gyda Brentford yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Image
Fin Stevens
Llun: St. Pauli

Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi chwarae i Oxford United ac Abertawe ar fenthyg.

Mae wedi ei gynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru wrth iddyn nhw obeithio cyrraedd cystadleuaeth Euro dan 21 yn 2025.

Owen Beck

Mae Beck wedi arwyddo i Blackburn Rovers ar fenthyg o Lerpwl, y pedwerydd clwb iddo ymuno ag o ar fenthyg yn ystod ei yrfa.

F.C. Famalicão ym Mhortiwgal oedd y clwb cyntaf i'r amddiffynnwr 22 oed ymuno ag o.

Fe aeth i Bolton Wanderers ar ôl hynny ac yna Dundee yn Yr Alban cyn arwyddo i Blackburn.

Cafodd ei enwi yn nhîm y tymor yn Uwch Gynghrair Yr Alban y llynedd.

Luke Harris

Roedd Harris yn y penawdau yn 2022 ar ôl sgorio hat-trick mewn 11 munud i dîm dan 23 Fulham.

Eleni fe fydd yn treulio'r tymor ar fenthyg gyda Birmingham City, a hynny yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda Exeter City y llynedd.

Image
Luke Harris
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae wedi sgorio yn barod i'w glwb y tymor hwn wrth iddyn nhw anelu i gyrraedd y Bencampwriaeth.

Mae'r Cymro ifanc wedi ei gynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru ar gyfer eu gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ ar 11 Medi.

Ed Beech

Er nad efallai'n enw cyfarwydd i gefnogwyr Cymru mae'n bosib y bydd Ed Beech yn cael ei gynnwys yng ngharfan Bellamy yn y dyfodol.

Mae'r Cymro 20 oed yn chwarae i Chelsea ond wedi arwyddo i Crawley Town ar fenthyg y tymor hwn.

Ef yw prif golwr dan 21 Cymru ac wrth i nifer o golwyr Cymru beidio'n chwarae'n gyson i'w clybiau mae'n bosib y bydd Bellamy yn ystyried Beach ar gyfer ei garfan nesaf.

Matt Baker

Yr haf hwn fe wnaeth Matt Baker arwyddo i Gasnewydd o Stoke City.

Daw hyn yn dilyn tymor llwyddiannus ar fenthyg gyda'r clwb y llynedd yn Adran Dau.

Image
Matt Baker
Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae'r amdiffynnwr wedi chwarae pum gwaith i dîm dan 21 Cymru ac wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer yr ornest yn erbyn Gwlad yr Iâ y mis hwn.

Tyler Roberts

Fe wnaeth yr ymosodwr Tyler Roberts, sydd ag 20 cap dros ei wlad, arwyddo i Northampton ar fenthyg o'i glwb Birmingham ar ddiwrnod olaf y ffenestr trosglwyddo.

Chem Campbell

Fe wnaeth asgellwr Wolves Campbell, 21 oed, sicrhau trosglwyddiad ar fenthyg i Reading, yn Adran Un, am y tymor ar ddiwrnod olaf y ffenestr trosglwyddo yn ogystal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.