Arestio menyw wedi marwolaeth bachgen chwech oed yn Abertawe
Arestio menyw wedi marwolaeth bachgen chwech oed yn Abertawe
Mae menyw wedi ei harestio yn dilyn marwolaeth "amheus" bachgen chwech oed yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yng Nghlos Cwm Du am 20:30 nos Iau.
Mae menyw 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae hi'n cael ei chadw yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y fenyw a'r plentyn yn byw gyda'i gilydd.
Nid yw'r llu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Chris Truscott, rheolwr rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot: “Mae hwn yn ddigwyddiad trallodus a fydd yn sioc i’r gymuned leol.
“Mae ditectifs yn gweithio i sefydlu amgylchiadau marwolaeth y plentyn a bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal i roi sicrwydd i drigolion lleol.
“Nid yw dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol a bydd yn achosi trallod i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn ar adeg sydd eisoes yn anodd.”