Cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth bachgen 13 oed wedi iddo gael ei drywanu
Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei drywanu yng ngorllewin canolbarth Lloegr ddydd Iau.
Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth.
Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i eiddo ar Rodfa Lovett yn ardal Oldbury, am tua 16.00 brynhawn Iau.
Fe gafodd bachgen 13 oed ei ganfod yno gyda chlwyfau trywanu. Roedd parafeddygon wedi ceisio trin ei anafiadau ond bu farw’r bachgen.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Shaun Edwards o dîm arbenigol Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr: “Mae’n gwbl drasig bod bywyd ifanc wedi’i golli
“Mae gennym swyddogion arbenigol a fydd yn cefnogi teulu’r bachgen.
“Rydym yn gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i bwy bynnag sydd yn gyfrifol er mwyn mynd â nhw i’r ddalfa cyn gynted â phosib.”