Newyddion S4C

Kamala Harris ddim yn difaru amddiffyn Joe Biden 'o gwbl'

30/08/2024
Kamala Harris

Mae Kamala Harris wedi dweud nad yw hi’n difaru amddiffyn gallu Joe Biden i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau am dymor arall “o gwbl,” wedi iddi siarad yn ei chyfweliad cyntaf ers ymuno â'r ras arlywyddol.

Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Biden ei fod yn tynnu allan o’r ras arlywyddol ym mis Gorffennaf yn dilyn pryderon am ei ymgyrch a’i allu pellach i arwain. 

Fe ddaeth rhai o’r pryderon rheiny i’r amlwg wedi iddo wneud camsyniadau yng nghyngres NATO ym mis Gorffennaf ar ôl cyflwyno arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky fel "yr Arlywydd Putin", sef arlywydd Rwsia. Mae Wcráin wedi bod mewn rhyfel gyda Rwsia ers mis Chwefror 2022.

Roedd Kamala Harris wedi cefnogi’r Arlywydd Biden yn ei ymgyrch arlywyddol hyd nes iddo gael trafferth i ddadlau yn erbyn Donald Trump yn y cyntaf o’r dadleuon i gael ei ddarlledu yn yr ymgyrch etholiad arlywyddol ym mis Mehefin, meddai. 

Wrth siarad â’r darlledwr Americanaidd CNN, dywedodd Ms Harris, sef is-lywydd presennol Joe Biden, ei bod wedi cefnogi’r Arlywydd hyd yna, a’i bod yn “anrhydedd” i gydweithio gydag ef. 

“Mae ganddo’r deallusrwydd, yr ymrwymiad, y farn a’r meddylfryd y mae pobl America yn eu haeddu cael yn eu Harlywydd. 

“O gymharu, does gan y cyn-Arlywydd ddim o hynny,” meddai wrth gyfeirio at y cyn-Arlywydd Donald Trump. 

Wrth iddo ymddangos i ymateb i’w sylwadau ar ei gyfrwng cymdeithasol ei hunain, Truth Social, dywedodd Trump: “DIFLAS!!!”

Wrth siarad â'r cyfryngau am y tro cyntaf ers iddi gael ei henwebu fel ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, dywedodd Ms Harris nad yw ei moesau "wedi newid," er ei bod hi wedi wynebu rhai beirniadaeth am symud tuag at bolisïau mwy canolog. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.