Newyddion S4C

Creu darn o gelf i ddathlu chwarter canrif o Ŵyl Gerdd Bangor

Guto Pryderi Puw a Chris Holley

Bydd artist adnabyddus o Ddyffryn Tafwys yn cael ei hysbrydoli i baentio llun newydd yn y fan a’r lle fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Gerdd Bangor yn 25 oed. 

Daw’r bartneriaeth rhwng Chris Holley a’r ŵyl wedi iddi gysylltu â’r sylfaenydd, Guto Pryderi Puw, yn ystod y cyfnod clo. 

Roedd yr artist wedi cysylltu â Mr Puw, sef Darllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan ddarparu dau ddarlun haniaethol iddo ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan ei gyfansoddiad, Different Lights.

Bydd Ms Holley yn creu gwaith celf newydd yn ystod y cyfansoddiad fel rhan o’r ŵyl, gan ddechrau am 7.30pm ddydd Sadwrn, 15 Chwefror.

Bydd ei darluniau gwreiddiol o’r cyfnod clo hefyd yn rhan o Music and the Muse, sef arddangosfa o 28 o weithiau celf yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio o 27 Ionawr tan ddiwedd yr ŵyl ar 16 Chwefror. 

Dywedodd Ms Holley: "Clywais Different Light hyfryd a aflonydd Guto ar-lein yn ystod y cyfnod clo a chefais fy swyno gan y gerddoriaeth a'i gysyniad – darlun yn cael ei symud o un lleoliad i’r arall a sut y byddai'r golau gwahanol yn effeithio'n gynnil ar ei wedd. 

"Felly, gan droi'r cysyniad o gwmpas, dros gyfnod o wythnosau fe wnes i ddau ddarlun yn seiliedig ar ei gyfansoddiad, gan e-bostio delweddau iddo o'r darluniau a ddeilliodd o hynny.

“I mi, mae cerddoriaeth, celf weledol a dawns i gyd yn wahanol ochr i'r un darn arian cyfoethog."

Image
Guto Puw
Guto Pryderi Puw

'Synnu'

Fe gyfansoddodd Mr Puw Different Lights a’i berfformio am y tro gyntaf yng Ngŵyl Bro Morgannwg yn 2000.

Dywedodd Mr Puw ei fod wedi “synnu” pan gysylltodd Ms Colley gyda’i gwaith yn ystod y pandemig. 

“Fel modd o dalu’r ffafr yn ôl, mae'r Ŵyl yn falch iawn o lwyfannu arddangosfa o'i darluniau yn ogystal â llwyfannu digwyddiad celf byw yn y cyngerdd nos Sadwrn yn Pontio pan fydd Sinfonia Cymru yn perfformio cerddoriaeth gan John Metcalf a Mikel Kuehn, ochr yn ochr â chomisiynau newydd yr ŵyl gan Lynne Plowman, Claire Victoria Roberts, Zach Reading a minnau," meddai. 

Wrth lansio'r rhaglen eleni, datgelodd Guto y bydd 15 darn newydd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yn ystod y digwyddiad. 

Bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn nodi carreg filltir eleni gan droi’n 25 oed ar ôl iddi gael ei sefydlu gan Mr Puw yn 2000 fel platfform ar gyfer cerddoriaeth gyfoes. 

Bydd yn cael ei chynnal rhwng 14 – 16 Chwefror eleni. 

"Mae'r un pwyslais ar gerddoriaeth newydd sy'n herio ac yn ysbrydoli, gyda chomisiynau newydd gan chwe chyfansoddwr/artist sain sefydledig, yn ogystal â gweithiau newydd gan fyfyrwyr Cerddoriaeth a myfyrwyr Ffilm o Brifysgol Bangor, gan ymateb yn greadigol o fewn thema'r Ŵyl. 

"Rydym hefyd yn falch o gynnwys y cyfansoddwr Americanaidd Mikel Kuehn fel ein cyfansoddwr gwadd, gan berfformio ei ddarnau sy'n cyfuno lleisiau byw a recordiedig, tafluniad fideo, synau electroneg a cherddi e e cummings a Wallace Stevens." 

Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys rhai o berfformwyr cyfoes gorau Cymru, yn cynnwys Cerys Hafana ar y delyn deires, y dawnswyr arbrofol Hedydd/VDKL i gerddoriaeth gan Eädyth Crawford, Sinfonia Cymru yn ogystal â synau arloesol Electroacwstig Cymru a'r soprano enwog Deborah Norin. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.