Chelsea neu Fiorentina? Y Seintiau Newydd i ganfod eu gwrthwynebwyr yng Nghyngres Europa
Fe allai Chelsea, Fiorentina neu Real Betis fod yn wrthwynebwyr i’r Seintiau Newydd wrth i bencampwyr Cymru ddarganfod pwy fydden nhw’n wynebu nesaf yng Nghyngres Europa UEFA ddydd Gwener.
Fe wnaeth y Seintiau cadarnhau eu lle yn rownd y gynghrair yn y gystadleuaeth nos Iau, ar ôl ennill o 3-0 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Lithwania, Panevėžys yn y rownd ragbrofol olaf.
YSN yw’r tîm cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd grwpiau unrhyw gystadleuaeth UEFA, a’r cyntaf i gyrraedd prif gystadleuaeth UEFA ers Y Barri yn 1996.
Inline Tweet: https://twitter.com/tnsfc/status/1829300987577930047
Y wobr ariannol am gyrraedd rownd y grŵp yw €3 miliwn, a hynny wedi i’r clwb eisoes hawlio dros €1.5 miliwn yn eu gemau yn Ewrop hyd yma.
Bydd y Seintiau yn darganfod eu gwrthwynebwyr ddydd Gwener, mewn seremoni i dynnu enwau allan o’r het ym mhencadlys UEFA yn y Swistir.
Pwy allai’r Seintiau wynebu?
Mae 36 o dimoedd wedi cyrraedd y gystadleuaeth ac maen nhw wedi eu rhannu mewn i chwe phot yn cynnwys chwe thîm. Mae’r Seintiau wedi eu gosod ym mhot pedwar, ar sail eu perfformiadau yn Ewrop eleni a dros y blynyddoedd diwethaf.
Fe fydden nhw’n chwarae mewn chwe gêm, yn erbyn un tîm o bob pot – gyda hanner o’r gemau yn cael eu chwarae gartref, a’r hanner arall oddi cartref.
Mae rhai o’r timau fwyaf adnabyddus yn y gystadleuaeth ym mhot un, gan gynnwys Chelsea, Real Betis o Sbaen, Fiorentina o’r Eidal a Copenhagen o Denmarc.
Inline Tweet: https://twitter.com/europacnfleague/status/1829287299710083142
Mae timau o bob cwr o Ewrop hefyd ymhlith y 36, gan gynnwys clybiau o Bortiwgal, Twrci, Awstria, Sweden a Gogledd Iwerddon.
Bydd y seremoni i dynnu enwau allan o’r het yn cael ei chynnal am 13.30 ddydd Gwener.