Nifer yn yr ysbyty wedi pryderon am nwy yn gollwng mewn fflatiau yng Nghaerdydd
Bu’n rhaid i 60 o bobl gadael eu fflatiau yng Nghaerdydd nos Iau ar ôl i drigolion gael eu taro’n wael wedi adroddiadau o nwy peryglus yn cael ei ollwng.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i adeilad Bay Chambers ar West Bute Street, Trebiwt am 22.18 ar ôl adroddiadau fod sawl unigolyn wedi eu taro’n wael.
Roedd eu symptomau yn gyson â symptomau gwenwyniad carbon monocsid, ac fe gafodd yr unigolion dan sylw eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd am brofion pellach.
Cafodd pedwar injan dân eu hanfon yn ogystal â sawl swyddog a cherbyd arbenigol, i geisio canfod ffynhonnell o unrhyw ollyngiad bosib o’r nwy carbon monocsid.
Roedd rhaid i 60 o drigolion lleol gadael yr adeilad a’u tywys i westy'r Gyfnewidfa Glo.
Cafodd cyfarfodydd eu cynnal ar leoliad gan Grŵp Cyd-derfynol Tactegol, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau tân, heddlu ac ambiwlans, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dŵr Cymru a Chyngor Caerdydd, er mwyn rheoli’r digwyddiad a cheisio gadael i’r trigolion ddychwelyd i’w cartrefi.
Cafodd y trigolion eu caniatáu i ddychwelyd i’w cartrefi yn ddiweddarach, wrth i ymchwiliadau pellach barhau.