Cip ar gemau dydd Sadwrn yn y Cymru Premier JD
Mae pedwar clwb yn gyfartal ar bwyntiau ar frig Uwch Gynghrair JD Cymru, a bydd dau o’r clybiau hynny’n cyfarfod ar Faes Tegid y Sadwrn yma pan fydd Y Bala yn croesawu Penybont.
Caernarfon (6ed) v Met Caerdydd (2il) | Dydd Sadwrn - 14:30
Ar ôl colli eu gêm agoriadol yn erbyn Hwlffordd, mae Caernarfon wedi cadw dwy llechen lân yn olynol gan guro’r Drenewydd a chipio pwynt yn erbyn Y Bala.
Mae Met Caerdydd yn un o’r pedwar tîm ar frig y gynghrair sydd heb golli dim un o’u pedair gêm agoriadol.
Er gwaethaf eu gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Hwlffordd ddydd Llun, Met Caerdydd yw prif sgorwyr y gynghrair (8 gôl), yn bennaf oherwydd iddyn nhw daro pump yn erbyn Llansawel ddydd Gwener diwethaf.
Cyfarfu’r timau ar bum achlysur y tymor diwethaf, ac ar ôl record gyfartal yn y gynghrair, cafodd y Cofis y gorau o’r Saethwyr yn y diwedd gan guro’r myfyrwyr 2-0 yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Ewrop, diolch i goliau hwyr gan Marc Williams ac Adam Davies.
Record cynghrair diweddar:
Tref Caernarfon: ❌✅➖
Met Caerdydd: ͏✅➖✅➖
Llansawel (12fed) v Cei Connah (7fed) | Dydd Sadwrn - 14:30
Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i Lansawel ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, gyda’r tîm o dde Cymru yn colli eu tair gêm agoriadol yn erbyn Penybont, Y Bala a Met Caerdydd.
Ond roedd hi’n ddechrau delfrydol i Billy Paynter yn ei gêm gyntaf fel rheolwr newydd Cei Connah ddydd Llun, gyda’r Nomadiaid yn ennill 1-0 yn eu darbi yn erbyn Flint Town United.
Dyw’r naill dîm na’r llall wedi bod yn tanio o flaen gôl eleni gyda Llansawel yn sgorio unwaith yn unig mewn tair gêm, a Chei Connah yn sgorio dim ond dwy mewn tair.
Ffurfiwyd clwb presennol Llansawel yn 2009, a dyma fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Cei Connah.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌❌
Cei Connah: ͏❌➖✅
Y Bala (3ydd) v Penybont (1af) | Dydd Sadwrn - 14:30
Bydd gêm fwyaf y penwythnos yn cael ei chynnal ar Faes Tegid gyda’r Bala a Phen-y-bont yn benderfynol o gadw eu record heb golli yn fyw.
Er gwaethaf colli allan ar y Chwech Uchaf a phêl-droed Ewropeaidd y llynedd, mae Penybont wedi cael eu tipio i orffen yn ail y tymor hwn.
Roedd Penybont wedi cadw naw llechen lân yn olynol yn y gynghrair cyn ildio yn eu buddugoliaeth 5-1 yn erbyn Aberystwyth ddydd Llun.
Mae’r Bala hefyd wedi amddiffyn yn ddewr yn ddiweddar ac wedi cadw tair llechen lân yn olynol.
Mae’r Bala ar rediad o bum gêm heb golled yn erbyn Penybont, ac fe enillodd tîm Colin Caton y ddwy gêm yn erbyn bechgyn Rhys Griffiths y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖✅✅➖
Penybont: ͏✅➖͏➖✅
Y Barri (10fed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Sadwrn - 14:30
Fe fydd hi’n gêm hollbwysig ar Barc Jenner rhwng dau dîm sydd heb gael y dechrau gorau i’r tymor.
Ar ôl gemau cyfartal teilwng yn erbyn Y Bala a Met Caerdydd, bydd Y Barri yn siomedig o golli eu dwy gêm dros benwythnos Gŵyl y Banc, yn erbyn Aberystwyth a’r Drenewydd.
Mae'r Fflint yn dal i aros am eu pwynt cyntaf ers cael dyrchafiad yn ôl i Uwch Gynghrair JD Cymru, gyda’r Silkmen wedi colli pob un o’r pedair gêm hyd yn hyn.
Nid yw’r clybiau wedi cyfarfod ers tymor 2021/22 pan enillodd Y Fflint eu dwy gêm yn erbyn Y Barri.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖➖❌❌
Y Fflint: ͏❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o holl ddigwyddiadau’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru