Busnesau'n galw am ragor o gymorth i daclo'r cynnydd mewn dwyn o siopau
Busnesau'n galw am ragor o gymorth i daclo'r cynnydd mewn dwyn o siopau
Mae busnesau yn galw am gamau pendant gan yr awdurdodau i fynd i’r afael ag achosion o ddwyn o siopau.
Daw hyn wrth i ffigyrau Llywodraeth y DU ddatgelu bod achosion o ddwyn o siopau ar eu huchaf ers 20 mlynedd.
Cafodd mwy na 440,000 o droseddau eu cofnodi gan yr heddlu yn y flwyddyn yn arwain at fis Mawrth. Er hyn, 2000 o rybuddion yn unig gafodd eu derbyn am ddwyn o siopau yn yr un cyfnod, gyda 431 o ddirwyon yn cael eu rhoi.
Mae llywodraeth newydd San Steffan wedi addo i weithredu ar y cynnydd, i sicrhau nad yw’r troseddau’n parhau heb eu cosbi.
Mae perchnogion rhai busnesau Cymreig yn dweud mai nhw sy’n gorfod talu’r pris am y troseddu.
Fe wnaeth perchennog busnes yn Abertawe, Julie Ruscitto, ddangos tystiolaeth camera cylch cyfyng i ITV Cymru Wales o ddyn yn ei siop, Chocolate Box, yn dwyn nwyddau cyn gadael trwy’r drws.
“Fe wnaeth e ddweud ‘Alright love?’ a gafael mewn balŵn oedd ynghlwm â photel o broseco a basged siocled… a cherdded trwy’r drws a’i gau y tu ôl iddo. Yn amlwg, fe wnaeth y camerâu ei weld.”
Ychwanegodd: “Ro’n i mewn sioc i fod yn onest, do’n i ddim yn gallu credu beth ro’n i wedi’i weld. Weddill y dydd, ro’n i ar bigau’r drain, am weddill yr wythnos i fod yn onest, oherwydd dy’ch chi ddim yn gwybod pwy sy’n mynd i gerdded trwy’r drws. Pan fod rhywun yn dwyn rhywbeth, mae’n tynnu oddi wrth yr elw o hyd.”
Mae achosion o ddwyn o siopau wedi cynyddu bron i 30% yng Nghymru, er bod busnesau yn defnyddio mwy o fesurau diogelwch i wrthsefyll y risgiau cynyddol. Mae’n broblem sy’n tyfu gyda mwy o oblygiadau i fanwerthwyr, sy’n colli miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.
Mae Simon Kendrick wedi hen arfer gweld pobl yn dwyn o’i siop. Mae’n gweithio yn y Gamers Emporium yn Abertawe, a dywedodd ei fod wedi gweld troseddu ar lefel fwy proffesiynol.
“Roedd gennym berson oedd yn hen law ar ddwyn o siopau y llynedd. Daeth i mewn, fe wnaeth e siarad â’r staff, roedd e’n tynnu eu sylw gan roi eitemau yn ei bocedi. Yn ystod un ymweliad penodol, fe wnaeth e afael mewn saith neu wyth eitem, wrth gynnal sgwrs gyda’r staff a dwyn ei sylw. Felly, mae’n sicr bod yna elfen o broffesiynoldeb yn perthyn iddo.”
Dywedodd Mr Kendrick: “Gyda’r unigolyn penodol yma, ddim mwy nag ychydig fisoedd yn hwyrach na phan wnaeth yr heddlu ei ddal, roedd e’n ôl yn gweiddi ar y staff drwy’r drysau. Pam na all rhywbeth mwy parhaol gael ei wneud?”
Mae Ben Cottam, Pennaeth Cymreig Ffederasiwn y Busnesau Bach, yn galw gamau mwy pendant i flaenoriaethu diogelwch perchnogion busnesau sy’n wynebu colli arian a nwyddau o ganlyniad i ddwyn o siopau.
Dywedodd: “Dwi’n meddwl bod yna argraff nad yw dwyn eitemau â llai o werth yn effeithio ar fusnesau. Ond gyda’i gilydd, mae wir yn broblem i fusnesau.
“Hoffem weld Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cymryd y broblem yn fwy difrifol a’i blaenoriaethu.”