Anhrefn treisgar wedi cael 'effaith ddifrifol' ar werthiant mewn siopau
Fe wnaeth anhrefn treisgar ar draws Prydain ar ddechrau mis Awst gael "effaith sylweddol" ar werthiant mewn siopau yn ystod y mis.
Cafodd nifer o siopau eu targedu yn ystod yr anhrefn ac fe wnaeth hyn effeithio ar niferoedd y siopwyr ar y stryd fawr yn ôl adroddiad Consortiwm Manwerthu Prydain.
Yng Nghaerdydd fe wnaeth nifer y siopwyr ostwng 4.1% o gymharu â mis Awst y llynedd, er nad oedd terfysgoedd yn y ddinas honno.
Birmingham oedd y ddinas a welodd y gostyngiad uchaf, gyda chwymp o 8.1%, tra bod Manceinion a Lerpwl wedi gweld gostyngiad o tua 2%.
Mae'r data yn dangos gostyngiad o 1.8% yn nifer y siopwyr yng Nghymru gyfan, a 0.5% ar draws Lloegr ym mis Awst.
'Aros i ffwrdd'
Dywedodd Helen Dickinson, prif weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain, bod pobl wedi penderfynu cadw draw o siopau oherwydd yn anhrefn.
"Wrth i ni weld anhrefn treisgar ar draws y wlad yn gynharach ym mis Awst, roedd nifer yr ymwelwyr i siopau wedi cael ei effeithio'n ddifrifol wrth i bobl aros i ffwrdd o siopau."
Mae hi'n galw ar Lywodraeth y DU i gynnig cymorth i fusnesau yn y Gyllideb sydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd Cyllideb gyntaf y Llywodraeth newydd yn un "boenus", gan ofyn i’r wlad dderbyn "poen tymor byr er lles hir dymor."
Dywedodd Miss Dickinson: "Mae cymunedau lleol angen i'r Llywodraeth weithredu ei chynllun i helpu tyfiant nifer yr ymwelwyr i siopau.
"Mae'r Gyllideb yn gyfle i symud i'r cam nesaf i drwsio'r system cyfraddau busnes sydd eisoes wedi torri ac yn atal buddsoddiadau busnes.
"Hefyd mae'n cyfrannu at gwymp ein stryd fawr ac yn arwain at nifer i siopau yn cau hyd a lled y wlad."