Newyddion S4C

Cais i adeiladu 29 o dai ar hen safle ysgol yn Llandysul

29/08/2024
Hen Ysgol Dyffryn Teifi

Mae cais i adeiladu 29 o dai ar safle hen ysgol yng Ngheredigion wedi ei gyflwyno i’r cyngor.

Mae cwmni Dyffryn Teifi Developments Ltd yn gobeithio ail-ddatblygu rhan o’r tir ar hen safle Ysgol Dyffryn Teifi a’r meysydd chwarae, ger Llyn y Fran a Heol y Gilfach, yn Llandysul.

Fe wnaeth yr hen ysgol gau yn 2016, gydag ysgol newydd i blant oedrannau 3-19 yn cael ei hadeiladu ar gyrion y dref. 

Cafodd safle’r hen ysgol, sydd wedi bod yn wag ers i'r adeilad gau, ei werthu i’r perchnogion presennol yn 2021.

Yn ôl datganiad gan asiant y datblygwyr, JMS Planning and Development, mae rhan fawr o’r tir yn hen gaeau aml ddefnydd, tra bod yna gyn-adeiladau dysgu hefyd ar y safle sydd eisoes gyda chaniatâd cynllunio er mwyn newid eu defnydd.

Fe fydd 20% o’r tai sydd yn rhan o’r cais yn rhai fforddiadwy, yn ôl yr ymgeiswyr.

Nid yw’r ganolfan hamdden, Calon Tysul, sydd hefyd ar y safle, yn rhan o’r cynllun, ond mae datblygwyr yn dweud eu bod yn gobeithio y byddai'r datblygiad yn “gwneud lles” i’r ganolfan. 

Mae’r maes parcio sydd yn cael ei ddefnyddio gan Calon Tysul o dan berchnogaeth Dyffryn Teifi Developments Ltd.

Fe fydd y cais yn cael ei ystyried gan adran gynllunio Cyngor Ceredigion maes o law.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.