Newyddion S4C

Dyn o Abertawe yn euog o smyglo saith o bobl i'r DU mewn fan

29/08/2024
 Anas Al Mustafa

Mae dyn o Abertawe wedi’i gael yn euog o smyglo saith o bobl i'r DU mewn fan.

Mae Anas Al Mustafa, 43 oed, wedi’i gael yn euog o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon drwy smyglo saith o bobl mewn fan a oedd wedi cael ei addasu'n arbennig, a hynny er mwyn eu cludo ar long rhwng Dieppe yn Ffrainc, a Newhaven, Dwyrain Sussex.

Cafodd yr Heddlu, Llu’r Ffiniau yn ogystal â'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i ymateb i'r digwyddiad yn ne Lloegr ar 16 Chwefror.

Clywodd aelodau o'r rheithgor yn Llys y Goron Lewes fod chwe dyn ac un ddynes wedi cael eu hamddifadu o ocsigen a dŵr yn y fan.

Dywedodd yr erlynydd Nick Corsellis KC wrth y llys bod y mewnfudwyr iau wedi gwella o'r diffyg hylif a'r gwres, ond cafodd un dyn drawiad posibl ar y galon, cafodd un fenyw anaf difrifol i'w harennau, ac fe wnaeth dyn arall ddioddef strôc.

Mae Al Mustafa, sy'n wreiddiol o Syria ac yn dad i ddau o blant, wedi gwadu ei fod yn gwybod eu bod yn y cerbyd.

Dywedodd wrth y rheithgor ei fod mewn “sioc” yn dilyn y darganfyddiad, gan ddweud mai dyma “ddiwrnod anoddaf ei fywyd”.

Dywedodd y Barnwr Christine Laing KC y byddai'n debygol o dderbyn “dedfryd sylweddol o garchar”.

'Sefyllfa hynod beryglus'

Clywodd y llys fod aelodau o griw’r llong Seven Sisters wedi clywed pobl yn galw am help o du mewn i fan yn ystod y daith, gan ddefnyddio bwyell i dorri'r wal ffug oedd yn cuddio’r bobl y tu mewn i’w rhyddhau.

Roedd yr erlynydd Mr Corsellis wedi dweud bod y gofod cudd yn ddau fetr o led ac yn 194cm o daldra ac wedi gorfodi'r mewnfudwyr i sefyll.

“Roedd y gwres a grëwyd gan saith o bobl mewn lle mor fach a’r diffyg aer/ocsigen digonol wedi creu sefyllfa hynod beryglus," meddai Mr Corsellis.

“Heb os, yr argyfwng marwol hwn a orfododd y mewnfudwyr i alw am gymorth mewn anobaith.”

Roedd dau o’r mewnfudwyr wedi colli ymwybyddiaeth erbyn iddyn nhw gael eu hachub am 9.20, ac fe gafodd y grŵp i gyd eu cludo i’r ysbyty a chael triniaeth.

Roedd nyrs o Awstralia a oedd yn teithio ar y llong, Sari Gehle, yn un o'r rhai wnaeth ymateb i'r alwad i gynorthwyo’r criw i'w hachub.

Dywedodd Ms Gehle bod y ddynes oedd yn y fan wedi "dychryn yn llwyr", gan afael yn ei braich yn dynn wrth ddweud, “Fietnam, Fietnam”.

Ychwanegodd bod y dynion oedd wedi eu smyglo yn gorwedd ar y llawr, gydag un yn chwydu, ac un arall gydag anaf ar ei ysgwydd.

Image
Fan mewn achos smyglo
Y gofod "lled brest ddynol" a gafodd ei adeiladu yn arbennig i smyglo saith o bobl

Clywodd y llys yn flaenorol sut y cafodd Al Mustafa ei gyflwyno i ddyn o'r enw Badr y tro diwethaf iddo fod yn Syria, a oedd wedi gofyn iddo yrru fan iddo.

Mewn cyfweliad heddlu, dywedodd yr erlyniad fod Al Mustafa wedi dweud iddo gael ei dalu £500 ar achlysur blaenorol i yrru’r fan i gael prawf MOT yn Lerpwl.

Ond ar gyfer y gwaith ym mis Chwefror, roedd yn cael ei dalu £5,000 i yrru’r fan i'r DU.

Clywodd aelodau o'r rheithgor ei fod wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn ymwybodol bod yna bobl yn y fan ond oherwydd ei fod yn cael £5,000 am y swydd roedd yn meddwl “efallai bod yna bobl y tu mewn y tro hwn”.

Pan ofynnwyd iddo am y cyfweliad, dywedodd Al Mustafa wrth y rheithgor trwy gyfieithydd fod y swm o £5,000 yn anghywir a'i fod yn golygu £500.

Dywedodd hefyd nad oedd yn cofio dweud wrth yr heddlu ei fod yn meddwl efallai bod pobl yn y fan ac nad oedd yn gwybod pam y dywedodd hynny.

Yn hytrach, dywedodd Al Mustafa wrth y llys iddo hedfan i Amsterdam am wyliau a chyfarfod â Badr yn y maes awyr.

Ychwanegodd fod Badr wedi awgrymu iddo yrru'r un fan ag yr oedd wedi ei gyrru o'r blaen i'r MoT yn ôl i'r garej gan fod problem gyda'r blwch gêr.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 6 Medi.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.