Newyddion S4C

Dyn lleol ymysg tri a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares

29/08/2024

Dyn lleol ymysg tri a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares

Roedd dyn lleol yn ei 80au ymysg tri pherson fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys a dau ambiwlans awyr eu galw i Stryd Alma yn y dref am 14.45 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Audi A8 a cherddwyr.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a cherddwyr gyfagos, bu farw tri pherson yn y digwyddiad.

Daeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru fore Iau mai gyrrwr a dau gerddwr a fu farw.

Roedd gyrrwr y car yn ei 80au ac yn byw yn lleol. Roedd y cerddwyr fu farw yn ddyn a dynes yn eu 60au, nad oedd yn byw yn ardal gogledd Cymru.

Mae teuluoedd y bobl a’r crwner wedi cael gwybod am y diweddariad.

Dywedodd Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theuluoedd y tri a fu farw o’u hanafiadau. 

“Mae teulu pob un bellach yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Cyswllt Teuluol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

“Rydym yn parhau a'n hapêl ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad nad yw eisoes wedi siarad â swyddogion, neu unrhyw un sydd â chamera dash neu gamera drws ffrynt i gysylltu â ni.

“Bydd y gwrthdrawiad ddoe wedi cael effaith ddofn, nid yn unig ar deuluoedd pawb a fu’n gysylltiedig, ond hefyd ar gymuned ehangach Biwmares. 

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gynorthwyodd yn y lleoliad a’r rheini, gan gynnwys busnesau lleol a gynigiodd loches i bawb a gymerodd ran.

“Rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau’r gwrthdrawiad, ac os oes gan unrhyw un wybodaeth am y gwrthdrawiad, ac sydd eto i siarad â ni, fe’u hanogir i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddigwyddiad gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000745374.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.