Newyddion S4C

O leiaf 10 o Balesteiniaid wedi'u lladd mewn cyrchoedd gan Israel ar y Lan Orllewinol

29/08/2024
Y Lan Orllewinol

Mae o leiaf 10 o Balesteiniaid wedi'u lladd mewn cyrchoedd gan Israel ar y Lan Orllewinol, yn ôl y weinidogaeth iechyd Palesteinaidd.

Mae Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wedi lansio cyrchoedd ar draws y Lan Orllewinol, gan amgylchynu dinas Jenin yn y gogledd.

Roedden nhw wedi rhwystro mynediad i'r ddinas a'i hysbytai, yn ôl y llywodraethwr lleol, Kamal Abu al Rub.

Mae Lluoedd Amddiffyn Israel wedi cadarnhau eu bod yn gweithredu yn ninasoedd Jenin a Tulkarm ar y Lan Orllewinol.

Mae Gweinidog Tramor Israel wedi disgrifio'r ymgyrch fel "rhyfel" yn erbyn "seilweithiau terfysgol Islamaidd-Iranaidd".

'Peri pryder mawr'

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, wedi galw am ddod â gweithrediadau Israel ar y Lan Orllewinol i ben "ar unwaith".

Mewn datganiad ar X ddydd Iau, dywedodd Mr Guterres fod y datblygiadau diweddaraf ar y Lan Orllewinol “yn peri pryder mawr”.

“Rwy’n condemnio’n gryf y golled o fywydau, gan gynnwys plant, ac rwy’n galw am roi’r gorau i’r gweithrediadau hyn ar unwaith,” meddai.

Mae cynnydd mawr wedi bod mewn trais ar y Lan Orllewinol ers i Hamas ymosod ar Israel ar 7 Hydref a’r rhyfel a ddilynodd yn Gaza.

Roedd 521 o Balesteiniaid - 126 ohonyn nhw’n blant - wedi eu lladd gan Luoedd Amddiffyn Israel rhwng mis Hydref a mis Mehefin, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae trigolion y lan wedi bod yn wynebu trais dyddiol gan luoedd Israel, gyda rhai o ymsefydlwyr Israel yn dwyn eu cartrefi a’u tir.

Yn ôl Israel, maen nhw'n ceisio atal ymosodiadau gan Balesteiniaid ar Israeliaid ar y Lan Orllewinol ac yn Israel.

Llun: Wochit
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.