Gemau Paralympaidd yn cychwyn ym Mharis gyda seremoni agoriadol
Fe wnaeth athletwyr o 168 o wledydd gymryd rhan yn Seremoni Agoriadol y Gemau Paralympaidd ym Mharis nos Fercher.
Cafodd y brif seremoni ei chynnal ar y Place de la Concorde, ar ôl gorymdaith rhwng yr Arc de Triomphe a’r Champs-Élysées, wrth i drefnwyr ddilyn trefn y Gemau Olympaidd drwy gynnal y seremoni y tu allan i stadiwm.
Yn wahanol i’r Gemau Olympaidd, roedd y tywydd yn braf wrth i dorf o 35,000 ddod i wylio’r seremoni awyr agored.
Fe wnaeth 500 o bobl berfformio yn y digwyddiad, gan gynnwys dawnswyr a chantorion.
Fe fydd 11 diwrnod o gystadlu yn cychwyn fore Iau, cyn dod i ben ddydd Sul 8 Medi.
Dywedodd Tony Estanguet, llywydd pwyllgor trefnu Paris 2024, fod y seremoni agoriadol yn cynrychioli dechrau'r "chwyldro Paralympaidd" dan arweiniad yr athletwyr.
“Yr hyn sy’n eich gwneud chi’n chwyldroadol yw, pan ddywedon nhw ‘na’ wrthych chi, fe wnaethoch chi barhau,” meddai Estanguet.
“Heno, rydych chi'n ein gwahodd i newid ein safbwyntiau, newid ein hagweddau, newid ein cymdeithas i roi lle llawn i bob person o'r diwedd.
“Bydd pob emosiwn rydych chi'n gwneud inni deimlo'n cario neges na fydd byth yn cael ei hanghofio: Nid oes gennych unrhyw derfynau, felly gadewch inni roi'r gorau i osod terfynau arnoch chi."
Bydd 215 o athletwyr yn cynrychioli tîm Prydain a Gogledd Iwerddon, ac mae targed o 100-140 o fedalau wedi eu gosod i’r tîm gan UK Sport.
Yn eu plith, mae 22 o athletwyr o Gymru.
Gorffennodd Prydain yn yr ail safle yn y Gemau yn Tokyo yn 2021 gyda 124 o fedalau, gan gynnwys 41 medal aur.
Lluniau: Wochit/AFP