Newyddion S4C

Y band Oasis yn ail-ffurfio gan gyhoeddi cyngherddau yng Nghaerdydd

28/08/2024

Y band Oasis yn ail-ffurfio gan gyhoeddi cyngherddau yng Nghaerdydd

Ben bore 'ma daeth y neges mae miloedd wedi bod yn ei ddisgwyl.

Mae Oasis yn eu hôl.

Mae'r brodyr wedi cymodi ac yn bwriadu teithio'r haf nesaf a'r ddwy sioe gyntaf o'u taith ym Mhrydain ac Iwerddon yn digwydd yng Nghaerdydd.

"Mae 'na lot o bobl o genhedlaeth benodol, fel fi y bobl dyfodd fyny yn y nawdegau.

"Oedd o'n gyhoeddiad, dw i'n meddwl oeddan ni byth yn meddwl oedd yn mynd i ddŵad bod Oasis yn mynd i ailffurfio ond ar y llaw arall pan ti'n cymryd cam yn ôl a meddwl am y peth doedd Noel a Liam ddim yn cyd-dynnu yn dda iawn beth bynnag pan oedd y band ar ei anterth.

"Felly, yn y pendraw, pan mae rhywun yn meddwl amdano fo os oeddan nhw am gael cynnig digon o arian wel, oedd o'n anochel ella yn y pendraw."

Mei, shw'mae.

"Haia, ti'n iawn?"

Bu Mei Gwynedd yn rhannu llwyfan gydag Oasis nôl yn 2009 ag yntau'n aelod o'r grwp, Y Peth gyda Rhys Ifans.

"Oedd o'n brofiad hollol swreal, 'swn i'n ddeud achos o'n i 'di fel o'n i'n deud 'tha nhw oeddan nhw cwpl o flynyddoedd yn hŷn na fi ella ond wedi tyfu i fyny efo'u cerddoriaeth nhw.

"Oedden nhw y soundtrack i fy mywyd i yn tyfu fyny.

"Oedd cyfarfod nhw yn rhywbeth o'n i'n meddwl oedd yn eitha oedd o'n bleserus rili achos o'n i'n teimlo fatha bof fi'n nabod nhw ac oedd hynna'n gwneud o'n hawdd siarad efo nhw."

Mae'r ffaith fod y daith yn dechrau yn Stadiwm y Principality fis Gorffennaf nesaf wedi cael croeso yn y ddinas gydag Oasis yn dilyn ôl-traed rhai o enwau mwyaf o fyd cerddoriaeth fel Taylor Swift sy 'di perfformio yn y stadiwm yn ddiweddar.

Mae busnesau canol y ddinas yn ffyddiog y bydden nhw'n gallu elwa o'r digwyddiad.

"Mae o'n mynd i fod yn grêt, dw i'n meddwl achos 'dan ni'n mynd i gael lot o bobl i fewn a lot o bres i fewn... "..lot o bobl yn ordro diod. "Mae o'n neis i'r stryd hefyd achos mae o'n jyst amser da pan mae 'na bethau yn digwydd yng Nghaerdydd, dw i'n meddwl."

Mae o 'di bod yn haf arbennig o brysur.

Mae 'na enwau mawr 'di bod yma.

Taylor Swift, Billy Joel, Bruce Springsteen ac yn y blaen.

Wi'n cymryd bod chi 'di bod yn brysur iawn?

"Uffernol o brysur.

"Even efo'r Foo Fighters oeddan ni'n rili brysur.

"Oedd Taylor Swift yn amser da iawn hefyd.

"Mae o jyst yn amser neis bod y stryd mor brysur."

"We make people feel something that was indefinable."

Er bod Liam a Noel Gallagher wedi perfformio yn unigol dros y blynyddoedd diwethaf fe fydd eu gweld nhw gyda'i gilydd eto yn siŵr o ddenu'r torfeydd.

"Weithiau, dydw i'm yn hollol siŵr am fandiau yn ailffurfio, dod yn ôl at ei gilydd be bynnag y rheswm sy ganddyn nhw ond dw i'n siwr efo nhw mae o'n swnio tha bod nhw 'di canu cloch efo'r bobl ifanc hefyd.

"Felly, mae 'na rywbeth, y cysylltiad yn fan'na, does.

"Dw i'n meddwl fydd hi'n shambles llwyr yn trio cael tocynnau.

"Fydd yna bob mathau o bobl yna dw i'n meddwl dim jyst pobl oed fi a rhai hŷn.

"Dw i'n meddwl fydd 'na rai iau hefyd isio mynd i fewn i weld nhw."

Fe fydd y ras am docynnau ar gyfer y sioeau hir ddisgwyliedig hyn yn dechrau fore Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.