Oasis ddim i berfformio yn Glastonbury 2025
Mae’r band Oasis wedi cadarnhau na fyddan nhw’n perfformio mewn unrhyw wyliau cerddorol yn 2025.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth fod y band yn bwriadu ail-ffurfio flwyddyn nesaf gyda thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Caerdydd fydd y lleoliad ar gyfer dwy sioe gyntaf y daith, a dyma fydd cyngherddau cyntaf y band ers 2009.
Fe fydd y band hefyd yn perfformio ym Manceinion, Caeredin, Llundain a Dulyn.
Gyda ‘galw digynsail’ am docynnau gan ffans y band, roedd amryw yn darogan ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai’r band hefyd yn perfformio mewn gwyliau dros yr haf, gan gynnwys cyngerdd yng ngŵyl Glastonbury.
Ond cafodd datganiad ei gyhoeddi gan y band ddydd Mercher, yn cadarnháu na fyddan nhw'n perfformio mewn unrhyw ŵyl yn ystod 2025.
Dywedodd y datganiad: “Er gwaethaf y trafod yn y cyfryngau, ni fydd Oasis yn chwarae yn Glastonbury 2025 nac mewn unrhyw wyliau eraill dros y flwyddyn nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/oasis/status/1828786289799504317
“Yr unig ffordd i weld y band yn perfformio fydd ar eu taith Oasis Live ’25”
Bydd tocynnau ar gyfer taith y band yn y DU yn mynd ar werth am 09:00 fore Sadwrn.
Mae’r band eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i berfformio mewn cyfandiroedd eraill yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Llun: X/Oasis