Newyddion S4C

Cynllun i ychwanegu 50% yn fwy o drenau ar reilffyrdd y gogledd

28/08/2024
Jo Stevens a Ken Skates

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau trenau yn y gogledd yn cynyddu 50% erbyn 2026.

Yn ôl y llywodraeth, mae hynny'n "ddechrau yn unig i ddatgloi" y capasiti sydd ar gael yng ngogledd Cymru.

Wrth ymweld â gorsaf trên Y Fflint ddydd Mercher dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates bod cynlluniau cadarn yn eu lle i gynyddu nifer y trenau fydd yn teithio ar brif linell gogledd Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu capasiti rheilffyrdd 40%, gyda 50% yn fwy o wasanaethau wedi'u hamserlennu, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £800m mewn trenau CAF newydd sbon. 

Yn ogystal bydd gyrwyr ychwanegol a chriwiau trenau yn cael eu recriwtio. 

Dywedodd Mr Skates: "Rwy'n falch iawn bod gennym bellach gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni'r cynnydd enfawr hwn mewn capasiti rheilffyrdd ar gyfer gogledd Cymru. 

"Bydd yr uwchraddiadau diogelwch hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gynyddu cysylltedd yn sylweddol gyda llawer mwy o wasanaethau a dewis go iawn o ran trafnidiaeth i gymunedau yng Ngogledd Cymru.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens mai'r dechrau yn unig ydy'r cynlluniau hyn.

"Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru rydym yn benderfynol o wneud gwelliannau mawr i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.

"Dim ond y dechrau yw datgloi mwy o gapasiti rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid gwasanaethau i deithwyr am genedlaethau i ddod."

Newidiadau i groesfannau

Er mwyn gallu gweithredu'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar y lein, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen newidiadau ar nifer o groesfannau rheilffordd.

Mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn cynnal rhaglen o ymgynghori, cynllunio a datblygu lleol ar y cyd i gau croesfannau pedair rheilffordd ar hyd prif reilffordd gogledd Cymru.

Byddai cau croesfannau yn galluogi teithiau trenau cyflymach.  

Ymhlith y cynigion mae cau dwy groesfan ym Mhrestatyn ac un ger Pensarn, Abergele, lle bydd pont droed newydd yn cael ei hadeiladu i gymryd lle'r croesfannau presennol i gerddwyr.

Yn y cyfamser, mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r gymuned leol ar gau croesfan llwybr troed yn barhaol ar y llinell yn Neganwy, Sir Conwy.

Wrth i'r cynlluniau newydd gael eu cyhoeddi, parhau mae'r ansicrwydd a fydd cynllun y cyn Brif Weinidog Rishi Sunak i drydaneiddio'r linell yn digwydd. 

Dyw Llywodraeth Lafur newydd San Steffan ddim wedi cyhoeddi unrhyw fanylion eto.    


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.