Starmer: Cytundeb newydd gyda'r Almaen ond dim bwriad i 'ddad-wneud Brexit'
Starmer: Cytundeb newydd gyda'r Almaen ond dim bwriad i 'ddad-wneud Brexit'
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cytundeb cydweithredu newydd gyda’r Almaen.
Ond tra'n siarad yn y brifddinas Berlin, mynnodd nad ymgais yw hon i "ddad-wneud" Brexit. Pwysleisiodd bod hwn yn gyfle i "ailosod" y berthynas gyda'r Undeb Ewopeaidd.
Mewn cynhadledd newyddion gyda Changhellor yr Almaen Olaf Scholz, dywedodd y Prif Weinidog y byddai cytundeb gyda'r Almaen yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn, gan ychwanegu fod hwn yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth".
Dywedodd Mr Scholz bod y Deurnas Unedig a'r Almaen yn “ffrindiau da, yn bartneriaid agos, ac yn ymddiried yn ei gilydd".
Yn ôl Syr Keir, bydd cytundeb y DU-Almaen yn arwain at “gysylltiadau dyfnach ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, datblygu, pobl, busnes a diwylliant ”.
Dywedodd y byddai hefyd yn cynnwys mynediad i farchnadoedd ei gilydd a masnach ar draws Môr y Gogledd.
Ar ôl treulio cyfnod yn ninas Berlin, bydd Syr Keir yn teithio i Baris i gwrdd ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, cyn mynd i seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd nos Fercher.