Galwad i gyfyngu gwerthiant alcohol i ddwy ddiod yn unig mewn meysydd awyr
Mae prif weithredwr cwmni awyrennau Ryanair wedi galw am gyfyngu gwerthiant alcohol mewn meysydd awyr er mwyn mynd i’r afael â chynnydd mewn anhrefn ar deithiau hedfan.
Dywedodd Michael O’Leary y dylid caniatáu hyd at ddwy ddiod alcoholig yn unig fesul taith er mwyn rheoli'r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a threisgar.
Ychwanegodd fod achosion treisgar wythnosol yn gysylltiedig ag alcohol, yn enwedig wrth gymysgu â sylweddau eraill.
Dywedodd Mr O’Leary: “Dydyn ni ddim eisiau atal pobl rhag cael diod. Ond dydyn ni ddim yn caniatáu i bobl yfed a gyrru, ac eto rydyn ni'n parhau i'w gosod mewn awyrennau 33,000 troedfedd yn yr awyr.
Yn ôl y prif weithredwr, mae'n anodd i gwmnïau hedfan adnabod pobl sydd wedi meddwi wrth y giât, yn enwedig pan fo teithwyr mewn grŵp: “Cyn belled â’u bod nhw’n gallu sefyll i fyny a cherdded rhywfaint fe fyddan nhw’n dod drwodd. Yna pan fydd yr awyren yn cychwyn fe welwn y camymddwyn.”
Ychwanegodd Mr O'Leary fod aelodau'r criw a theithwyr eraill wedi dod yn dargedau. Dywedodd fod oedi cyn i awyren hedfan yn ychwanegu at y broblem gan arwain at gyfnodau hirach yn yfed mewn meysydd awyr.
Ychwanegodd: “Yn yr hen ddyddiau, fe fyddai pobol oedd yn yfed gormod yn cwympo i gysgu yn y pen draw. Ond nawr mae’r teithwyr hynny hefyd ar dabledi a phowdr,” meddai.
"Dyma’r gymysgedd. Rydych chi'n cael ymddygiad llawer mwy ymosodol sy'n dod yn anodd iawn i'w reoli."
Eglurodd Mr O’Leary fod staff Ryanair yn archwilio bagiau cyn bod teithwyr yn cael mynd ar hediadau i Ibiza. Dyma un o’r “cyrchfannau parti” sy'n profi'r heriau mwyaf iddyn nhw yn ogystal ag ynysoedd Gwlad Groeg.