‘Angen i afancod fod yn ôl yn y gwyllt i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd’
Mae angen “dull beiddgar” i ddod ag afancod yn ôl i gynefinoedd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl arbenigwyr bywyd gwyllt.
Mae angen i afancod fod yn ôl yn y gwyllt i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ôl arbenigwyr.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi cyhoeddi adroddiad yn galw am drwyddedau i ryddhau’r mamaliaid i’r gwyllt, yn hytrach na dim ond mewn amgylcheddau wedi’u ffensio, yng Nghymru a Lloegr, ac mae angen cyllid gan y llywodraeth i gefnogi hyn, yn ôl y sefydliad.
Ond mae'r undeb amaeth NFU Cymru wedi datgan y byddai'n gwrthwynebu unrhyw gamau i ail-gyflwyno'r afanc i gynefinoedd yng Nghymru.
Yn ôl rhwydwaith o elusennau bywyd gwyllt, mae astudiaethau gwyddonol yn dangos bod afancod, sy'n cael eu hadnabod fel rhywogaethau allweddol gan eu bod yn rheoli afonydd a gwlyptiroedd yn naturiol trwy docio coed ac adeiladu argaeau, yn gallu gwella ansawdd dŵr a helpu i storio carbon.
Maen nhw hefyd yn sefydlogi llif dŵr mewn sychder a llifogydd ac yn creu cynefinoedd ar gyfer llu o fywyd gwyllt arall.
Maen nhw yn ddewis cost-effeithiol, medd yr ynddiriedolaethau, yn lle ymdrechion i fynd i’r afael â materion adnoddau dŵr ac i waith cadwraeth, a gallan nhw hyd yn oed roi hwb i dwristiaeth.
Ond er gwaethaf lansio ymgynghoriad ar ddyfodol afancod gwyllt a rhoi statws gwarchodedig iddynt yn Lloegr, methodd y Llywodraeth flaenorol â rhoi’r camau sydd eu hangen ar gyfer eu dychweliad yn eu lle, meddai cadwraethwyr.
Yng Nghymru, mae deddfwriaeth i amddiffyn afancod a galluogi eu rheolaeth effeithiol yn dal i fod yn ddiffygiol yn ôl ymgyrchwyr.
Cafodd afancod eu hela i ddifodiant yng Nghymru a gweddill Prydain yn yr 16eg ganrif am eu ffwr, eu chwarennau a’u cig, ond maen nhw bellach yn byw yn y gwyllt ar nifer o afonydd yn yr Alban a Lloegr trwy dreialon swyddogol a rhyddhau neu ddianc anghyfreithlon.
Mae Prosiect Afancod Cymru yn gweithio i ailsefydlu afancod gwyllt yng Nghymru fel yng Nghors Dyfi.
Arweinir Prosiect Afancod Cymru gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru.
Maen nhw hefyd wedi cael eu cyflwyno mewn nifer o siroedd Lloegr.
Dywedodd yr Ymddiriedolaethau Natur: “Rydym yn galw ar lywodraethau Llafur yn San Steffan a Chymru i gyhoeddi strategaeth ailgyflwyno afancod uchelgeisiol, darparu cyllid i reolwyr tir sy’n gwneud lle i afancod drwy’r cynlluniau taliadau ffermio a chytuno ar gymorth ariannol ar gyfer grwpiau rheoli afancod.”
Gwrthwynebiad
Ond nid pawb sydd yn cefnogi'r galwadau.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd Hedd Pugh, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig undeb NFU Cymru: “Da ni wedi clywed hyn o’r blaen ac mae NFU Cymru yn gwrthwynebu ail gyflwyno'r afanc.
"I gychwyn, di’r afanc ddim wedi bod yma ers rhyw 400 mlynedd felly pam dod a fo yn ôl rŵan? Mae’n medru gwneud difrod i argaeau, i gropiau, mae’n mynd i dyllu ochr afonydd, difetha coed. Mae 'na gymaint o sôn y dyddiau yma am i ni fel amaethwyr, bod rhaid i ni blannu mwy o goed – wel mae’r afanc yn mynd i ddifetha coed yn lle edrych ar eu holau nhw.
"Ac maen nhw’n mynd i greu llifogydd wrth wneud coed ar draws afonydd i wneud argae, fel lle ar eu cyfer nhw.
"Y nhw fel afanc fydd yn penderfynu lle fyddan nhw’n wneud o a ddim y bobl. Os da ni eisiau i slofi dŵr i lawr, ‘sa’n well i ni adael i bobl wneud o a ddim gadael i anifail wneud o yn rywle rywle.”
Gwarchod rhywogaethau
Mae’r elusennau hefyd yn galw ar i Lywodraethau’r DU a Chymru “gadarnhau ar frys” y gall pob poblogaeth o afancod gwyllt aros yng Nghymru a Lloegr, ac i afancod yng Nghymru gael eu cydnabod fel rhywogaeth frodorol a’u gwarchod yn llawn.
Mae’r adroddiad yn cydnabod pryderon ynghylch dychweliad afancod, gan gynnwys argaeau afancod yn rhwystro ymfudiad pysgod, effeithiau ar y tirwedd, coed a glannau, a llifogydd lleol gan gynnwys tir fferm.
Ond mae’n nodi ffyrdd o osgoi neu ddatrys gwrthdaro, gan gynnwys timau ymateb cyflym a all ddatrys problemau, gwaith parhaus gyda chymunedau i gynyddu dealltwriaeth o afancod, a chymhellion ariannol i helpu rheolwyr tir i ennill bywoliaeth wrth weithio ochr yn ochr â’r anifeiliaid a’r gwlyptiroedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried pecyn o gynigion yn dilyn adolygiad tystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae hyn yn cynnwys archwilio'r opsiynau mwyaf priodol ar gyfer diogelu'r Afanc Ewropeaidd yn gyfreithiol, ynghyd â chynigion polisi a rheoli."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: “Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo’n llwyr i adfer a diogelu byd natur ac rydym yn cefnogi ailgyflwyno rhywogaethau lle mae manteision amlwg i natur, pobl a’r amgylchedd.