Louis Rees-Zammit heb ei gynnwys yng ngharfan y Kansas City Chiefs
Nid yw Louis Rees-Zammit wedi ei gynnwys yng ngharfan y Kansas City Chiefs.
Cyhoeddodd y Chiefs eu carfan ar gyfer tymor 2024-25 nos Fawrth, oedd yn golygu dewis 53 chwaraewr o'r 90 oedd yn rhan o'r garfan hyfforddi.
Roedd Zammit, a wnaeth adael rygbi ym mis Ionawr er mwyn ymuno â'r NFL wedi chwarae pob un o gemau cyn-dymor y Chiefs.
Er bod y Cymro 23 oed heb gael ei gynnwys yn y garfan, nid yw ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL drosodd.
Mae timau eraill yn gallu ei arwyddo, ond mae disgwyl iddo barhau yn rhan o garfan ymarfer y Chiefs.
Fe all Zammit chwarae i'r Chiefs pe bai'r clwb yn dioddef nifer o anafiadau yn ei safle hefyd, sef running back.
Mae gan glybiau'r cyfle hefyd i alw dau chwaraewr o'r garfan ymarfer ar gyfer pob un gêm yn ystod y tymor.
Fe ddechreuodd taith Louis Rees-Zammit i'r NFL trwy'r Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP), sydd yn rhoi llwyfan i athletwyr rhyngwladol chwarae yn yr NFL.
Cafodd ei arwyddo gan bencampwyr y gamp ar ôl ei gyfnod 10 wythnos gyda'r IPP, ar gytundeb hyd at dair blynedd.