Newyddion S4C

Y Cymro Aled Siôn Davies yn 'teimlo'r pwysau' wrth edrych ymlaen at Gemau'r Paralympaidd

27/08/2024

Y Cymro Aled Siôn Davies yn 'teimlo'r pwysau' wrth edrych ymlaen at Gemau'r Paralympaidd

Ymroddiad, dycnwch a dyfalbarhad dyna'n rhannol sydd i gyfri am lwyddiant rhyfeddol Aled Sion Davies.

Heb golli mewn prif gystadleuaeth ers deng mlynedd fe yw'r un i'w guro ym Mharis.

Ydy e felly yn teimlo'r pwysau?

"Mae'r pwysau di bod 'na ers Llundain 2012.

"Fi'n cofio dod off y podium efo medal aur gynta fi a pawb wedi dweud, sa i'n gallu colli eto nawr!

"Fi ishe hyn bob tro a dyna'r nod ym mhob cystadleuaeth.

"Ar ôl ennill pob teitl o'n i'n gwybod bod angen rhywbeth arall i fod fel yr aspirations sy'n gyrru fi i fod yn well bob dydd.

"Oedd hwnna y perfformiad. O'n i ishe gweld reit, faint mor bell ydw i'n gallu taflu?

"Ydw i'n gallu rhoi mwy o distance between fi a'r ail yn y byd? O'n i eisiau gwthio'r record.

"Ydy dy baratoadau wedi newid?

"Dyma dy bedwerydd Gemau Paralympaidd."

"Tro 'ma fi wedi neud siwr bod fi'n barod am unrhyw beth.

"Fi wedi tapio mewn i bob cystadleuaeth, meddwl am y cylch y ffaith bod e'n gallu bod yn llithrig. Fi efo chwe par o esgidiau nawr.

"Pob par gyda gwahanol cyflymder. Fi'n gallu delio efo unrhyw beth felly ie, fi'n credu nawr bod fi'n barod i fynd yn enfawr. Y nod yw curo'r Paralympic record.

"Mae 'na nifer o Gymru yn rhan o dîm Prydain nawr a nifer yn taflu a falle'n edrych lan atot ti."

"Pa mor browd wyt ti o hynny?

"Fi mor falch, fi'n caru'r gamp. Fi'n caru taflu a fi bob amser ishe mwy o athletwyr i ddod trwy.

"Maen nhw i gyd ishe curo fi a fi'n caru hwnna achos nawr ni efo shwt gyment o athletwyr dros lawer math o anableddau ac athletwyr sydd ddim efo anableddau'n paratoi efo ni.

"Fi'n caru'r ffaith bod fi'n Gymro yn dod o fan hyn a fi eisiau cael rhyw ysbrydoliaeth o fi ond mae'n neud fi'n hapus bod fi'n gallu gadael y sport yma a bydd llawer o athletwyr yn dod a medalau yn ôl i Gymru.

"Ie, mae'n rhywbeth fi mor browd i fod yn rhan o. Gobeithio bydd e'n tyfu a ni'n gallu neud Cymru a Caerdydd cael hwb i daflu.

Ydy, mae Aled wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o daflwyr pwysau ond dyw e ddim yn barod i ildio'i goron eto.

Llygadu aur arall ym Mharis yw'r nod a pharhau i wthio'r ffiniau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.