Newyddion S4C

Dynes 96 oed yn cyfaddef iddi achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

27/08/2024
Gyrru'n beryglus

Mae dynes 96 oed wedi cyfaddef iddi achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ar ôl iddi yrru dros balmant a tharo dau berson a oedd yn cerdded. 

Tra'n eistedd mewn cadair olwyn yn Llys y Goron Lerpwl, plediodd June Mills o Ainsdale ar Lannau Mersi yn euog. 

Roedd ei gŵr wrth ei hymyl yn y llys.  

Cyfaddefodd iddi achosi marwolaeth Brenda Joyce, 76, yn Formby ar 2 Awst y llynedd.

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Tom Gent na all Mills gerdded yn bell ac felly byddai'n anhebygol y medrai gyflawni gwaith di dâl. 

Dywedodd bod ei gallu i symud wedi gwaethygu ers y gwrthdrawiad. 

Clywodd y llys iddi wasgu gormod ar y sbardun tra roedd yn gyrru ei char Vauxhall Corsa.

Cafodd yr achos ei ohirio, a bydd June Mills yn cael ei dedfrydu mewn gwrandawiad ar 30 Medi.  

Wedi'r gwrthdrawiad fis Awst y llynedd, dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod dynes 76 oed wedi marw yn y fan a'r lle, wedi iddi gael anafiadau difrifol i'w phen.

Cafodd dynes arall 80 oed a oedd yn cerdded ar y palmant, fân anafiadau.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.