Newyddion S4C

Chris Gunter wedi ei benodi'n rheolwr tîm dan-19 Cymru

27/08/2024
Chris Gunter

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod Chris Gunter wedi ei benodi'n rheolwr tîm y dynion dan-19. 

Enillodd 109 o gapiau dros ei wlad gan chwarae am 15 mlynedd i'r tîm cenedlaethol. 

Ymunodd â'r tîm hyfforddi wedi iddo ymddeol fel chwaraewr, gan gynorthwyo Cymru i gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2024.    

Bydd y cyn amddiffynnwr yn treulio'r misoedd nesaf yn paratoi ei chwaraewyr ar gyfer rownd gyntaf gemau rhagbrofol Euro 2024/2025, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Ffrainc, Yr Alban a Liechtenstein.

Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd Chris Gunter: “Rwy'n hynod o falch fy mod yn cael y cyfle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen i ddechrau mewn rôl wahanol 

“Mae'n gyfle da i mi ddysgu a gwella, ond yn bwysicach na hynny, rydw i eisiau cefnogi a rhannu fy mhrofiad gyda'r chwaraewyr ifanc sy'n ein cyrraedd." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.