Newyddion S4C

‘Pryder’ fod cynnydd yn nifer y cyffuriau sy’n cael eu cymysgu gyda chyffuriau eraill

28/08/2024
Cyffuriau

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn “pryderu” bod cynnydd yn nifer y cyffuriau sydd yn cael eu cymysgu gyda chyffuriau eraill – gan olygu nad yw unigolion yn ymwybodol o’r hyn y maen nhw’n ei brynu.

Yn ôl y gwasanaeth sydd yn profi cyffuriau yng Nghymru, roedd 42% o gyffuriau yn naill ai’n gynhyrchion fferyllol a gafodd eu gwerthu gydag enw brand nad oedd yn ddilys, neu’n sylwedd anghyfreithlon oedd yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau nad oedd yr unigolyn yn ymwybodol ohonynt.

Daw wedi i Wasanaeth Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) – sydd yn profi cyffuriau yn ddienw ac am ddim – brofi sampl o 7,000 o gyffuriau o bob rhan o’r DU yn ystod y flwyddyn rhwng 2023 – 2024.

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos ddydd Sadwrn, mae arbenigwyr iechyd bellach wedi rhybuddio y gall cyffuriau o’r fath achosi gorddos damweiniol gan nad yw’r unigolyn yn ymwybodol o’r hyn y maen nhw’n ei ddefnyddio. 

Wrth gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ddydd Mercher, dywedodd gwasanaeth WEDINOS mai’r cyffur a gafodd ei brofi amlaf oedd un a gafodd ei werthu fel diazepam, sef y cyffur sy'n cael ei werthu dan frand Valium.  

Cafodd 1,408 o’r samplau a gafodd ei brofi gan y gwasanaeth ei brynu gan bobl oedd o’r farn eu bod yn prynu diazepam – ond doedd 48% o’r sampl hwnnw ddim yn cynnwys diazepam.

Roedd 75 o samplau a gafodd ei gyflwyno i’r gwasanaeth fel diazepam yn cynnwys yr opioid synthetig cryf, nitazene – a hynny naill ai ar y cyd â bromazolam, sef cyffur seicoweithredol, neu ar ei ben ei hun.

Roedd nitazenes hefyd yn bresennol mewn cyffuriau a gafodd eu cyflwyno fel heroin ac oxycodone.

Diogelwch

Dywedodd yr Athro Rick Lines o wasanaeth WEDINOS bod eu data yn “parhau i ddangos pwysigrwydd” profi cyffuriau er mwyn lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gyffuriau anghyfreithlon. 

“Mae ein gwasanaeth yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i dderbyn dadansoddiad dienw o'r sylweddau y maent wedi'u prynu ac y gallent fod yn ystyried eu defnyddio.

“Mae'n galluogi dewis gwybodus ac mae'n annog newid ymddygiad.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.